Effeithlon ym maes addysg uwch
4 Medi 2019
Mae un o arbenigwyr dulliau effeithlonrwydd Ysgol Busnes Caerdydd wedi helpu i lunio llyfr newydd am fod yn effeithlon ym maes addysg uwch.
Daw’r testun, Global Lean for Higher Education: A Themed Anthology of Case Studies, Approaches and Tools, â thros 30 awdur o sawl rhan o’r byd at ei gilydd i hybu arferion gorau gwella yn sector addysg uwch.
Yn ei phennod hi, mae Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd, yn canolbwyntio ar esblygiad dulliau o’r fath yn y brifysgol gyntaf a’u defnyddiodd yn y deyrnas hon.
Mae Ms Lethbridge, Uwch Gyfrannog Ymchwil yn y Lean Enterprise Research Centre cynt, yn cnoi cil ar wersi ymarferol sydd wedi’u dysgu trwy orchwyl y ganolfan honno, sef ‘cynnal ymchwil i syniadau effeithlonrwydd, eu rhoi ar waith a’u cyfleu’ gan holi, ‘Ydy Prifysgol Caerdydd yn brifysgol effeithlon neu well?’
Meddai Ms Lethbridge: “Rydyn ni’n byw mewn cyfnod gwleidyddol ac economaidd ymestynnol ac mae’r prifysgolion o dan bwysau trymion o ran arian a syniadau. Mae’n amlwg bod angen rhaglenni trawsffurfio.”
“Felly, roedd yn dda cael cyfle i drafod ein profiad o fod yn brifysgol effeithlon gan ein bod ar fin dechrau cyfnod arall o newidiadau...”
Wedi’i olygu gan Steve Yorkstone, Ymgynghorydd Gwella Busnes ym Mhrifysgol Napier Caeredin, mae’r casgliad yn canolbwyntio ar gamau sydd wedi’u cymryd ym mhob prifysgol er effeithlonrwydd gan drafod gwaith y cymorth gweinyddol neu’r gwasanaethau proffesiynol yno.
Ei nod yw dangos yr amryw ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon yn y prifysgolion gan ysgogi pobl i gydio ym meddylfryd effeithlonrwydd yn eu cyd-destunau unigryw eu hunain a sbarduno gwaith llwyddiannus, cynaladwy ac effeithlon.
Meddai Mr Yorkstone: “Mae’r llyfr hwn wedi’i lunio i bobl a hoffai wella’r modd mae prifysgolion yn gweithio trwy themâu megis Dechrau, Pobl, Prosiectau, Technoleg, Cynnal Effeithlonrwydd a Meddylfryd…”
Mae modd darllen rhagor am y llyfr, ei brynu neu ei rentu ar ffurfiau clawr caled ac electronig ar wefan Routledge.