Ymchwilwyr i astudio unigedd a ffiseg y bydysawd
4 Medi 2019
Mae ymchwil sy’n ystyried effeithiau unigedd ar les yn un o ddau brosiect gan Brifysgol Caerdydd fydd yn elwa ar €3.38 miliwn o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC).
Bydd Dr Netta Weinstein, o’r Ysgol Seicoleg, yn cael €1.48 miliwn er mwyn ymchwilio i sut mae pobl yn ymateb i unigedd, ar adeg pan mae mwy o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain.
Mewn prosiect gwahanol, bydd Dr Erminia Calabrese, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn cael €1.9 miliwn er mwyn ystyried cwestiynau sylfaenol am y Bydysawd.
Maent ymysg cannoedd o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd o ledled yr UE sydd wedi cael cyfanswm o €603 miliwn ar gyfer eu gwaith o dan raglen Ymchwil ac Arloesedd yr UE, Horizon 2020.
Mae rhan o ymchwil Dr Weinstein yn ceisio esbonio pam mae unigedd yn brofiad unig ac ynysedig i rai pobl, tra bod pobl eraill yn ei ddefnyddio’n gadarnhaol ar gyfer creadigrwydd a hunanfyfyrio.
Dywedodd: “Mae mwy o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain nag erioed o’r blaen. Mae tua thraean o gartrefi yn Ewrop yn cynnwys un unigolyn. Mae’r gyfran ar i fyny, yn rhannol oherwydd bod pobl yn gweithio fwy o gartref, yn byw’n hirach wedi ymddeol ac yn llai tebygol o fyw gydag aelodau o’u teulu estynedig neu blant sy’n oedolion.
“Yn bwysig, hyd yn oed ar gyfer y rheini sy’n byw gyda phobl eraill, mae treulio amser ar eu pennau eu hunain yn brofiad beunyddiol, ac yn gyfle pwysig ar gyfer hunanfyfyrio ac ymlacio.
“Ond hyd yn hyn, nid ydym yn gwybod llawer pam mae rhai pobl yn mwynhau unigedd ac yn ffynnu ynddo hyd yn oed, tra gall fod yn brofiad unig a phryderus ar adegau eraill.”
Yn y cyfamser, bydd Dr Calabrese yn cynnull tîm rhyngwladol er mwyn dadansoddi data newydd o Delesgop Cosmoleg yr Atacama ac Arsyllfa Simons yn Chile er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth o’r Bydysawd.
Dywedodd: “Bydd fy nhîm ERC yn datblygu technegau dadansoddi mwy blaengar er mwyn echdynnu gwybodaeth newydd, sy’n rhychwantu ffiseg sylfaenol, cosmoleg ac astroffiseg, o’r data hwn.
“Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith gyda gwledydd Ewropeaidd eraill, yn ogystal â chydweithwyr o Japan, UDA, a Chanada, er mwyn dylunio’r lloeren cefndir microdonnau cosmig pwrpasol nesaf, fydd â’r nod o fapio’r argraff o enedigaeth y Bydysawd.
“Ar y cyfan, nod y prosiect hwn yw arwain y chwiliad am ddarganfyddiadau newydd fydd yn hybu ein dealltwriaeth y tu hwnt i ffiseg sylfaenol.
“Posibilrwydd cyffrous yw bod ein dealltwriaeth o’r Bydysawd yn anghyflawn oherwydd bod ffiseg newydd ar waith sydd y tu hwnt i’r modelau safonol o ffiseg ronynnol a chosmoleg.”