Gallai cracio “côd firws” helpu i drechu canser
4 Medi 2019
Mae arbenigwyr firws o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi dadlennu, am y tro cyntaf, sut mae firws o’r enw Adenofirws math 26 (Ad26), sydd wedi’i ddefnyddio ar ffurf ddof mewn brechlyn, yn gallu heintio celloedd dynol.
Mae Ad26 yn firws sydd o ddiddordeb mawr i’r gymuned wyddonol a meddygol. Mae Ad26 yn bathogen dynol sy’n achosi trallod resbiradol difrifol, a marwolaeth efallai mewn cleifion agored i niwed, ac yn gydran allweddol mewn brechlynnau newydd i fynd i’r afael â chlefydau angheuol.
Ar hyn o bryd, mae brechlyn sy’n seiliedig ar Ad26 yn cael ei ddefnyddio yn Affrica er mwyn mynd i’r afael ag epidemig Ebola. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw gwyddoniaeth yn deall sut mae’r firws hyn yn gweithio yn y corff dynol, a’r hyn sy’n ei wneud yn frechlyn mor dda.
Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Science Advances, yn cynnig y dadansoddiad manwl cyntaf o strwythur y firws yn gymhlyg gyda’i dderbynnydd sydd newydd ei ddarganfod.
“Mae ein hymchwil yn canfod bod Ad26 yn defnyddio math o siwgr a geir ar arwyneb y rhan fwyaf o gelloedd i dreiddio celloedd dynol a’u heintio”, yn ôl Alexander Baker, a arweiniodd yr ymchwil.
“Cyn hynny, roedd y gymuned wyddonol yn credu bod Ad26 yn defnyddio protein o’r enw CD46 i heintio celloedd.
“Mae ein hymchwil yn dangos bod hyn yn hynod annhebygol, ac yn cynnig esboniad amgen.”
Drwy ddeall sut mae’r firws yn heintio celloedd dynol, mae’r tîm yn credu y bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu meddyginiaethau gwrthfirysau er mwyn atal ffurfiau heintus ar Ad26 rhag lledaenu, ac yn arwain at ddatblygu brechlynnau mwy effeithiol, ar sail Ad26 dof, i fynd i’r afael â chlefydau heintus ynghyd â chanser.
Ychwanegodd Alexander: “Rydym yn gwybod bod brechlyn Ad26 eisoes yn ymddangos yn addawol ar gyfer heintiau sy’n peryglu bywyd, fel Ebola.
“Fodd bynnag, prin iawn yw’r ddealltwriaeth hyd yma, os oes unrhyw ddealltwriaeth o gwbl, ynghylch sut mae’r firws yn gweithio fel brechlyn neu glefyd. Mae ein hymchwil yn cynnig atebion newydd.
“A ninnau wedi canfod sut mae’n treiddio’r corff ac yn lledaenu, gall gwyddonwyr a chlinigwyr ddefnyddio’r wybodaeth hon i dargedu safle clymu’r siwgr er mwyn datblygu cyffuriau i’w atal rhag lledaenu a datblygu brechlynnau i drechu heintiau sy’n peryglu bywyd.
“Gallai cracio côd y firws fod yn bwysig er mwyn deall sut mae’r brechlyn firol yn gweithio’n effeithiol er mwyn gwarchod rhag heintiau sy’n peryglu bywyd.”
Bydd y tîm yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu brechlynnau sy’n seiliedig ar firysau a brechlynnau canser mwy effeithiol er mwyn efelychu system imiwnedd y corff ac ymladd yn erbyn canser, pan mae’n datblygu.
Ariannwyd yr ymchwil gan Ofal Canser Tenovus ac Ymchwil Canser y DU.