Colocwiwm: Safbwyntiau ar hanes Ceidwadaeth yng Nghymru
6 Medi 2019
Er mwyn nodi cyflwyno papurau Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad yn ystod degawd cyntaf datganoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd y colocwiwm arbennig hwn yn edrych ar safbwyntiau gwahanol ar hanes y Ceidwadwyr Cymreig.
Bydd y colocwiwm, sy’n cael ei drefnu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â David Melding AC, yn cynnwys cyflwyniadau gan rai o’r ysgolheigion mwyaf blaenllaw yn y maes, gan gynnwys asesiad cyntaf o gynnwys papurau Grŵp y Cynulliad.
Bydd cyfranogwyr yn cynnwys Fay Jones (cadeirydd), Sam Blaxland, yr Athro Laura McAllister, David Torrance, David Melding AC, Rhys Evans a'r Athro Richard Wyn Jones
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 18 Hydref yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.
Mae’r rhaglen lawn a manylion cofrestru ar gael yma.