Gwobr ISSF yn cyllido gwaith i chwilio am feddyginiaeth sgitsoffrenia newydd
2 Medi 2019
Mae sgitsoffrenia’n effeithio ar dros 23 miliwn o bobl, a phobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn deirgwaith mwy tebygol o farw’n gynnar. Mae cyllid newydd gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn cefnogi ymchwil flaengar fydd yn gwella therapïau.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill dyfarniad y Gronfa Cefnogaeth Strategol Sefydliadol gan Ymddiriedolaeth Wellcome er mwyn helpu i ddarganfod dulliau mwy effeithiol o drin sgitsoffrenia.
Mae sgitsoffrenia’n gyflwr iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â rhithweledigaethau, rhithdybiau, yn ogystal â namau gwybyddol a symptomau negyddol, megis difaterwch ac encilio rhag cymdeithas.
Nid yw meddyginiaethau presennol ar gyfer sgitsoffrenia’n trin symptomau gwybyddol neu negyddol y cyflwr, gan amlygu’r dirfawr angen am therapïau newydd.
Dywedodd Dr Olivera Grubisha, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: “Ar hyn o bryd, mae anghenion pobl sy’n byw gyda sgitsoffrenia heb eu diwallu eto, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwella opsiynau therapiwtig ar gyfer y cyflwr iechyd meddwl hwn.
“Ers amser hir, mae gwyddonwyr yn gwybod bod proteinau, o’r enw derbynyddion NMDA, sy’n gweithredu’n wahanol yn yr ymennydd, yn gysylltiedig â sgitsoffrenia. Felly, rydym yn canolbwyntio ar y rhain er mwyn creu cyffuriau newydd a gwell.
Rydym eisiau targedu protein o’r enw serin racemas, sy’n rheoleiddio derbynyddion NMDA drwy gynhyrchu’r cemegyn D-serin yn yr ymennydd.
Credwn ein bod yn gallu cynyddu’r lefel o gynhyrchu D-serin drwy actifadu serin racemas. Bydd hyn yn gwella gweithgarwch a gweithrediad derbynyddion NMDA yn yr ymennydd ac yn cynnig meddyginiaeth effeithiol i drin namau gwybyddol a symptomau negyddol mewn cleifion sgitsoffrenia.”
Mae'r Gronfa Cefnogaeth Strategol Sefydliadol gan Ymddiriedolaeth Wellcome wedi dyfarnu £20,000 i’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn cefnogi’r prosiect hwn.
“Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddarganfod meddyginiaethau newydd sy’n targedu gweithgarwch serin racemas, a gobeithio bydd yr ymchwil hon yn sail am ddatblygu cyffuriau ar gyfer sgitsoffrenia yn y dyfodol,” ychwanegodd Dr Olivera Grubisha.