Work on Cryoegg leads to nomination for 2019 Collaborate to Innovate Awards
30 Awst 2019
Dr Liz Bagshaw a’r tîm wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau Cydweithio ac Arloesi 2019.
Mae Gwobrau Cydweithio ac Arloesi The Engineer (C21) bellach yn ei bedwaredd flwyddyn a chafodd y digwyddiad ei sefydlu i amlygu a dathlu enghreifftiau gwych o fentrau peirianneg cydweithredol a arweinir gan dechnoleg ar draws ystod o ddisgyblaethau a sectorau. Mae Dr Liz Bagshaw a’i thîm wedi’u henwebu am eu gwaith ar dechnoleg Cryoegg.
Mae Grŵp Ymchwil Hinsawdd Oer Prifysgol Caerdydd yn cynnull gwyddonwyr trawsddisgyblaethol yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr sy’n ystyried prosesau yn rhai o’r amgylcheddau mwyaf eithafol ar y Ddaear. Mae ganddynt ddiddordeb mewn sut mae bywyd yn bodoli mewn amgylcheddau eithafol a sut mae prosesau yn y lleoedd oeraf yn dylanwadu ar y modd y mae'r Ddaear gyfan yn gweithio.
Mae tîm Hinsawdd Oer yn taflu goleuni ar gyflwr, ymddygiad a dynameg prosesau system y Ddaear mewn Rhanbarthau Pegynol drwy gyfuniad o ymchwil faes, arbrofi mewn labordy a modelu rhifiadol. Yr haf hwn, mae rhai o’r grŵp wedi bod yn gwneud ymchwil faes ar yr Ynys Las er mwyn profi technolegau newydd sy’n gallu mesur toddi rhewlifol.
Dr Liz Bagshaw, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr sy’n arwain y gwaith. Mae hi’n datblygu synwyryddion di-wifr bach sy’n casglu mesuriadau o dros 2,000m o dan y rhewlifoedd, yn ogystal â gwrthsefyll yr amodau eithafol sydd yno.
Mae’r dechnoleg, a elwir ‘Cryoegg’, yr un maint â grawnffrwyth, ac mae yn cynnwys bwrdd cylched bach iawn o fewn mowld sy’n gallu mesur gwasgedd, dargludedd trydanol a thymheredd y dŵr tawdd o’u hamgylch. Datblygwyd y teclyn ar y cyd â Dr Mike Prior-Jones a Dr Jonny Lees o’r Ysgol Peirianneg, gyda chefnogaeth peirianwyr a rhewlifegwyr o Brifysgol Bryste. Ariennir y prosiect gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
Bu’r tîm yn gweithio gyda dau brosiect drilio iâ rhyngwladol yr haf hwn: RESPONDER, sy’n defnyddio dŵr poeth i wneud twll dwfn yn yr iâ, dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott a Phrifysgol Aberystwyth, a Phrosiect Craidd Iâ Dwyrain yr Ynys Las (EGRIP) dan arweiniad Prifysgol Copenhagen, sy’n echdynnu craidd iâ 2.5km o hyd drwy ddefnyddio dril sydd wedi’i ddylunio’n benodol at y diben. Defnyddiodd tîm Cryoegg y tyllau turio hyn i brofi sut mae’r offeryn yn gweithio mewn oerfel eithafol, a chasglu data gwerthfawr ar gyfer y cyfnod dylunio nesaf..
Mae’r cais a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y gwaith hwn yn gyflawniad gwych o ystyried y gystadleuaeth gref. Wrth sôn am gystadleuwyr y rownd derfynol eleni, dywedodd golygydd The Engineer, Jon Excell: “Lansion ni C2I i amlygu’r enghreifftiau gorau yn y DU o gydweithio ym maes peirianneg, ac mae nodweddion y rhestr fer eleni’n cynnwys rhai enghreifftiau arbennig o gryf o’r ddynamig hon ar waith: o brosiectau sydd wir yn arwain y byd yn y sector modurol i gamau pwysig ymlaen ym maes technoleg gofal iechyd fydd yn achub bywydau.
Bydd enillwyr terfynol pob categori yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llundain ar 6 Tachwedd a bydd rhifolyn arbennig o The Engineer yn manylu ar eu gwaith.
Gweld y categorïau a'r sefydliadau eraill sydd ar y rhestr fer.