Ar eich marciau, barod, amdani!
27 Awst 2019
Roedd yr haul yn gwenu ddydd Sul wrth i redwyr o bob oed a gallu redeg Milltir Trebiwt.
Mae'r ras milltir o hyd ar hyd Stryd Bute, sy'n cysylltu canol Caerdydd â'r Bae, yn deillio o'r 1980au, pan fu'n croesawu'r gorau yn y wlad i redeg ras elitaidd a'r gymuned leol i gymryd rhan mewn ras hwyl.
Daeth y ras i ben yn y 1990au, ond yn 2014, aeth Dr Sarah Fry – darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd – ati i ail-lansio'r ras ar y cyd â'r gymuned leol.
Wrth sôn am y ras wedi'i hadfer, dywedodd Dr Sarah Fry;
"Rwy'n falch ein bod yn gallu cynnal y digwyddiad hanesyddol ac arbennig hwn. Drwy Filltir Trebiwt, rydym yn gallu cynnig cyfleoedd i'r gymuned o ran integreiddio, iechyd a lles ac, ar yr un pryd, yn codi arian ar gyfer achos ardderchog."
Mae Caerdydd yn un o'r tri lle yn unig yn y byd sy'n cynnal ras milltir syth ar hyd heol. Fifth Avenue, Efrog Newydd a'r Champs-Elysees, Paris yw'r lleill.
Cystadlodd dros 130 o redwyr ddydd Sul, gyda'r rhedwyr mwy profiadol yn gobeithio cyflawni eu hamser gorau'n rhedeg milltir, a grwpiau o ffrindiau'n cofleidio'r her a mwynhau eu hunain.
Llamau, sydd â'r nod o roi diwedd ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc a menywod ar draws Cymru, oedd elusen swyddogol y digwyddiad eleni.