Ewch i’r prif gynnwys

Ailystyried dŵr: Myfyrwyr pensaernïaeth yn rhoi dŵr yn gyntaf yn eu prosiectau blwyddyn olaf

28 Awst 2019

HarianEdwards
Delweddu gan y myfyriwr BSc Harian Edwards ar fasnach ddŵr rhwng Cymru a Birmingham

Bu prosiectau terfynol grŵp o fyfyrwyr BSc o'r Ysgol Bensaernïaeth yn hoelio sylw ar ddŵr, un o adnoddau mwyaf gwerthfawr Cymru, gan ddefnyddio Cwm Elan fel astudiaeth achos.

Eleni, roedd Dr Marga Munar Bauza, Arweinydd yr Uned, am roi'r pwyslais ar Gymru ac ar gyfoeth Cwm Elan. Dywedodd: 'Mae lefelau glawiad iach yng nghanolbarth Cymru, sy'n ddigon i ddarparu dŵr ffres i lawer o bobl. Mae'r argaeau a adeiladwyd yng Nghwm Elan ar ddiwedd y 19eg ganrif yn dal i gyflenwi 360 miliwn litr o ddŵr y dydd i ddinas Birmingham.

'Fodd bynnag, er gwaetha holl gyfoeth y dŵr, y tirwedd a’r diwylliant sydd yno, mae canolbarth Cymru wedi dioddef creithio a chymunedau difreintiedig ar ôl cau'r diwydiant mwyngloddio'.

Ei chynnig oedd bod myfyrwyr yn archwilio dŵr fel adnodd a all greu ac ailddatblygu'r economi leol a gwella cydlyniant cymdeithasol.

Bu’r myfyrwyr yn ymdrin â'r pwnc o safbwyntiau gwahanol, gan symud y tu hwnt i ddefnyddio dŵr fel rhan o ddatblygiad adeiladau. Gan ystyried "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)", gellid dod at ddŵr fel elfen, galluogydd, a thestun gwrthdaro. Astudiwyd cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol yn helaeth gan esgor ar amrywiaeth o brosiectau amrywiol.

Edrychodd Megan Thacker-Brooks ar ei hôl troed dŵr ei hun cyn dechrau gweithio ar ei phrosiect. Darganfu bod ei defnydd dŵr corfforedig, a hithau'n llysieuwraig, yn llawer is na bwytawr cig cyffredin. Daeth hwn yn un o golofnau ei phrosiect. Gan edrych ar ansawdd pridd a gweithgareddau amaethyddol traddodiadol yng Nghwm Elan, penderfynodd Megan ddatblygu 'canolbwynt canolog ar gyfer amaethyddiaeth' er mwyn lleihau effaith ffermio defaid yn lleol ar yr amgylchedd ac annog amaethu aml-gnwd yn yr ardal.

Dyma mae hi’n ei ddweud: 'I ddechrau, datblygodd fy ymchwil yn sgîl pryder am ffynhonnell y dŵr sydd wedi'i ymgorffori yn ein bwyd ac effaith ganlyniadol amaethyddiaeth (ffermio defaid yn bennaf!) ar dirwedd a dŵr canolbarth Cymru.

'Canlyniad terfynol y prosiect oedd canolfan Arloesi Amaethyddol yn Aberystwyth, oedd â'r nod o greu system cynhyrchu bwyd lleol a fyddai'n rhoi ymwybyddiaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr o ffynhonnell eu cynnyrch dyddiol, faint o ddŵr sy’n angenrheidiol i'w gynhyrchu a phwy sydd wedi'i gynhyrchu'.

Mae'r prif ganolbwynt yn ficrocosm ar gyfer y diwydiant bwyd, ac yn cynnwys canolfan ymchwil i amaethyddiaeth, fferm aml-gnwd a marchnad. Ei nod yw cael ffermwyr i ymuno yn y sgwrs am amaethyddiaeth fodern a bod yn fwy tryloyw ar yr un pryd am y broses cynhyrchu bwyd a throi'r sylw oddi wrth amaethyddiaeth sy'n seiliedig ar dir i leoliadau trefol mwy rheoledig.

Edrychodd Harian Edwards ar ddŵr fel testun gwrthdaro, ond gyda golwg gadarnhaol ar ffiniau. Defnyddiodd y berthynas rhwng Cymru a Birmingham fel astudiaeth achos er mwyn datblygu proses gyfnewid gylchol.

Meddai Harian: 'Mae canolbarth Cymru'n allforio cynnyrch pur ac yn mewnforio cynnyrch amhur o Birmingham yn gyfnewid am hynny.  Mae modd defnyddio'r cynnyrch amhur hwn i greu cynhyrchion mae galw amdanyn nhw.

'Ar sail ymchwil o Brifysgol Cape Town, gwelais fod modd defnyddio wrin wedi'i fewnforio i gynhyrchu bio-frics. Yn ogystal, gallai sgîl-gynnyrch y brics, sy'n wrtaith naturiol, helpu i dyfu cywarch a chynhyrchu olew canabidiol, y gwyddom ei fod yn lleddfu poen ac yn lleihau gorbryder ac iselder.

Trwy ei phrosiect, datblygodd Harian gynlluniau ar gyfer cyfleuster wedi'i leoli yng Nghwm Elan a fyddai'n casglu ac yn ailddefnyddio'r dŵr a anfonwyd i Birmingham.

Bydd carfan newydd o fyfyrwyr BSc yn parhau i ddefnyddio dŵr yn destun yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae helpu a dod yn rhan o'r gwaith trwy gysylltu â Dr Marga Munar Bauza neu Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.