Nature Astronomy yn Canolbwyntio ar Uwchnofâu
27 Awst 2019
Y mis hwn, mae Nature Astronomy, y cyfnodolyn misol ar-lein sy'n cyhoeddi'r ymchwil arloesol bwysicaf ym maes seryddiaeth, astroffiseg a gwyddoniaeth blanedol, wedi cyhoeddi erthygl adolygu gan Dr Cosimo Inserra fel rhan o'u ffocws ar uwchnofâu.
Mae'n edrych yn bennaf ar dirwedd newidiol uwchnofâu ac mae'r erthyglau'n cwmpasu'r ystod eang o uwchnofâu a welwyd hyd yma, sut maent yn cael eu dosbarthu, ac yn trafod yr uwchnofâu newydd sy'n cael eu nodi ac yn ystyried sut y bydd ein dealltwriaeth yn cael ei llywio gan ddarganfyddiadau'r dyfodol.
Mae uwchnofâu, neu farwolaethau ffrwydrol sêr, ymhlith y digwyddiadau seryddol sy’n cael eu cofnodi fwyaf, a bathwyd y term uwchnofa am y tro cyntaf yn yr 1930au. Mae hyn yn golygu ei bod wedi bod yn angenrheidiol datblygu systemau dosbarthu i gofnodi amrywiaeth y gwahanol uwchnofâu a welwyd dros y can mlynedd diwethaf. Yn ddiweddar daeth yn amlwg bod hyd yn oed mwy o amrywiaeth o uwchnofâu, gan gynnwys rhai “hynod”, llachar iawn, a rhai optegol cyflym, glas byrhoedlog. Mewn gwirionedd, mae digwyddiadau byrhoedlog yn yr awyr sy'n edrych fel uwchnofâu ond nid ydynt yn ddigon llachar ac felly fe'u gelwir yn uwchnofâu ffug. Mae'r erthygl ffocws yn nodi ei bod yn dod yn amlwg bod angen tacsonomeg newydd i ddosbarthu'r uwchnofâu sy’n hysbys ar hyn o bryd a’r rhai newydd a fydd yn cael eu gweld mewn astudiaethau yn y dyfodol.
Mae'r erthygl adolygu gan Dr Inserra, astroffisegydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn edrych ar uwchnofâu eithafol, sy'n cynnwys y rhai llachar iawn yn ogystal â'r rhai optegol cyflym, glas byrhoedlog. Gellir defnyddio'r cyntaf o'r rheini yn y dyfodol er mwyn mesur pellter.