Potensial ar gyfer therapïau newydd i dargedu lewcemia myeloid acíwt
27 Awst 2019
Mae wyth o bobl yn y DU yn cael diagnosis o lewcemia myeloid acíwt bob dydd, ac mae'n gyfrifol am dros 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae targed therapiwtig posibl newydd wedi'i ganfod, allai helpu i wella triniaethau yn y dyfodol.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi nodi moleciwl biolegol, Gata2, allai agor drysau newydd ar gyfer datblygu therapïau effeithiol ar gyfer lewcemia myeloid acíwt.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar dargedu bôn-gelloedd canser, casgliad bychan o gelloedd mewn canser sy'n gyfrifol am dwf, lledaeniad ac ail bwl o ganser. Drwy dargedu'r celloedd hyn, nod y sefydliad yw gwella therapïau canser yn y dyfodol.
Yn ôl Dr Neil Rodrigues o'r Sefydliad Ymchwil Bôn-Gelloedd Canser Ewropeaidd: "Mae lewcemia myeloid acíwt yn fath prin o ganser, gyda thua 3,000 o bobl yn cael eu diagnosio yn y DU bob blwyddyn. Mae'n gwaethygu'n gyflym ac yn ymosodol ac mae angen triniaeth ar unwaith, fel arfer.
"Mae ein hymchwil wedi nodi targed therapiwtig posibl newydd allai drin bôn-gelloedd canser yn effeithiol yn y math hwn o lewcemia."
Defnyddiodd labordy Dr Rodrigues fodelau canser i ymchwilio i swyddogaeth Gata2 o ran lewcemia myeloid acíwt, a chanfod ei fod yn allweddol mewn sawl proses sy'n ymwneud â chynhyrchu celloedd cyffredin y gwaed yn ogystal â chwarae rhan yn y ffyrdd allweddol y mae bôn-gelloedd yn ymddwyn yn achos lewcemia myeloid acíwt.
"Ein casgliad oedd bod Gata2 yn hanfodol o ran rheoleiddio bôn-gelloedd canser a bod ganddo ran mewn prosesau y gellir ymelwa arnynt at ddibenion therapiwtig er mwyn targedu bôn-gelloedd canser mewn lewcemia myeloid acíwt.
"Mae'r gwaith hwn bellach yn gosod y seiliau er mwyn galluogi ymchwilwyr i ddylunio'r cyffuriau newydd i dargedu Gata2, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, a bydd hynny, gyda lwc, yn arwain at well therapïau ar gyfer y canser hwn, sydd â phrognosis gwael," ychwanegodd Dr Rodrigues.