Adnabod 'chwaraewr allweddol' yn y cyswllt genetig â chyflyrau seiciatrig
21 Awst 2019
Mae gwyddonwyr wedi adnabod genyn penodol a allai yn eu barn nhw fod yn chwaraewr allweddol yn y newidiadau yn strwythur yr ymennydd mewn nifer o gyflyrau seiciatrig, fel sgitsoffrenia ac awtistiaeth.
Mae'r tîm o Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod dileu'r genyn CYFIP1 yn arwain at deneuo'r inswleiddio sy'n gorchuddio celloedd nerfol ac sy'n hanfodol ar gyfer cyfathrebu cyflym rhwng rhannau o'r ymennydd.
Mae'r canfyddiadau newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Communications ac a amlygwyd yn y cyfnodolyn Nature Reviews Neuroscience, yn taflu goleuni newydd ar achosion posibl cyflyrau seiciatrig a gallai yn y pen draw awgrymu therapïau newydd a mwy effeithiol.
Ceir nifer o newidiadau genetig a allai newid risg anhwylderau seiciatrig, ond mae un newid blaenllaw a elwir yn Amrywiolion Nifer y Copïau (CNV) yn cynnwys dileu darnau o DNA.
Yn benodol, CNV yw lle caiff DNA ei ddileu o un o'r cromosomau pâr.
Mae'r gwaith a wneir yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Meddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd wedi dangos bod gan bobl sydd yn profi dileu DNA fel hyn siawns uwch o lawer o fod ag anhwylder seiciatrig ond gan fod yr achosion o ddileu'n aml yn cynnwys llawer o enynnau, hyd yma bu’n ddirgelwch yn union pa enynnau sy'n cyfrannu at y risg uwch.
Yn eu hastudiaeth bu'r tim yn canolbwyntio ar ddileu un genyn penodol, CYFIP1, sydd wedi'i leoli mewn man arbennig yng nghromosom 15, a elwir yn 15q11.2, oedd eisoes wedi'i adnabod gan yr un tîm fel ardal gyda chysylltiadau â'r abormaleddau biolegol a gysylltir ag anhwylder seiciatrig.
Gan ddefnyddio dulliau arloesol a thyfu celloedd ymennydd lle'r oedd un copi o CYFIP1 ar goll, roedd y tîm yn gallu dangos bod hyn yn gysylltiedig ag abnormaleddau mewn myelin - haen neu wain insiwleiddio sy'n ymffurfio o gwmpas y nerfau yn yr ymennydd.
Ymhellach, roedd y tîm yn gallu olrhain yr abormaleddau hyn yn ôl i gelloedd penodol yn yr ymennydd o'r enw oligodendrosytau sy'n gyfrifol am gynhyrchu gweiniau myelin.
Dywedodd awdur cyntaf yr astudiaeth Ana Silva, a ymgymerodd â'r gwaith gyda'i chydweithwyr fel rhan o'i hastudiaethau PhD gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Wellcome: "Y syndod mwyaf i ni oedd faint o effeithiau dileu'r 15q11.2 oedd yn bosib eu hesbonio gydag effaith un genyn.
"Fe wyddom fod llu o ffactorau'n dylanwadu ar y risg o ddioddef anhwylder seiciatrig yn gysylltiedig â'r amgylchedd ffisegol a chymdeithasol a'n cyfansoddiad genetig.
Dywedodd yr awdur arweiniol yr Athro Lawrence Wilkinson, Cyfarwyddwr Gwyddonol Sefydliad y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd: "Mae Caerdydd wedi bod ar y blaen yn adnabod ffactorau risg genetig ar gyfer cyflyrau seiciatrig a'r her nawr yw gwneud synnwyr biolegol o'r eneteg i'n helpu i ddeall patholeg y clefyd a chynllunio gwell triniaethau.
"Mae ein gwaith gyda CYFIP1 yn enghraifft o'r ffordd y gall dealltwriaeth enetig lywio ymchwil i fecanweithiau biolegol sy'n sail i gamweithredu."
Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, cyd-Uwch awdur a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl: “Mae'r cyfuniad o arbenigedd clinigol a gwyddonol yng Nghaerdydd, ynghyd â chefnogaeth hael ein cyllidwyr yn Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Hodge yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i fanteisio ar y datblygiadau cyflym mewn geneteg seiciatrig er budd cleifion.”
Yn dilyn yr ymchwil hwn, mae'r tîm yn edrych am abormaleddau myelin mewn pobl â'r dilead 15q11.2 gan ddefnyddio cyfleusterau arloesol Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn ogystal â chyfrifo'r union fecanwaith sy'n achosi'r abormaleddau myelin CYFIP1 er mwyn gallu ei adfer.