Dyfodol targedu canser yr ymennydd
21 Awst 2019
Caiff 11,000 o bobl a mwy ddiagnosis o ganser yr ymennydd yn y DU bob blwyddyn, ond mae gwyddonwyr wedi darganfod targedau moleciwlaidd a allai arwain at genhedlaeth newydd o therapïau canser yr ymennydd.
Gallai cemegion sy’n galluogi celloedd canser yr ymennydd i gyfathrebu a thyfu fod yn darged i therapïau canser yr ymennydd yn y dyfodol, yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, Clinig Cleveland a Phrifysgol Uppsala.
Mae gwyddonwyr wedi nodi dau foleciwl biolegol, o’r enw ADAMDEC1 ac FGFR1, sydd â rôl allweddol mewn prosesau bôn-gelloedd canser glioblastoma, sef y celloedd sy’n gyfrifol am ysgogi tiwmorau’r ymennydd i dyfu a lledaenu.
Dywedodd Dr Florian Siebzehnrubl o Brifysgol Caerdydd: “Tiwmorau ymennydd angheuol yw glioblastomas gyda phrognosis gwael gan eu bod yn gwrthsefyll therapi ac yn treiddio i’r ffurfiau yn yr ymennydd.
“Gellir priodoli’r ymddygiadau ymosodol a welwn mewn glioblastomas i fôn-gelloedd canser, sef poblogaeth fach o gelloedd mewn tiwmor sy’n rhannu i ysgogi twf tiwmor ac sy’n gyfrifol am ledaenu canser o amgylch y corff.
“Os gallwn ddeall gweithgareddau’r bôn-gelloedd canser, gallwn ddechrau targedu’r bôn-gelloedd canser mewn tiwmor yn effeithiol, yr ydym yn credu y bydd yn ein galluogi i ddatblygu therapi mwy effeithiol.
“Roeddem am ymchwilio i’r mecanweithiau sy’n caniatáu i fôn-gelloedd yn yr ymennydd gadw eu priodweddau cellog, sy’n eu galluogi i greu celloedd canser newydd a gwrthsefyll triniaethau cyfredol ar gyfer canser.”
Nododd yr ymchwilwyr ADAMDEC1 ac FGFR1, sef proteinau a grëir gan fôn-gelloedd canser i gyfathrebu â chelloedd eraill o’u cwmpas. Mae’r cemegion hyn yn helpu i gadw’r bôn-gelloedd canser glioblastoma yn iach fel y gallant barhau i rannu a thyfu’r tiwmor.
“Trwy dargedu’r genau ar gyfer ADAMDEC1 ac FGFR1, neu drwy gyffuriau sy’n ymyrryd yn benodol â gweithgareddau’r ddau brotein hyn, gwelwn fod bôn-gelloedd glioblastoma yn cael eu lladd a bod twf y tiwmor yn arafu.
“Mae hyn yn golygu bod ADAMDEC1 ac FGFR1 yn dargedau therapiwtig posibl ar gyfer glioblastoma, a thrwy ymchwil bellach, gallwn ymchwilio i’w heffeithiolrwydd fel targedau therapiwtig.
“Mae’r ymchwil hon wedi gosod y sylfeini ar gyfer y posibilrwydd o ddatgelu dosbarth newydd o therapïau ar gyfer canser yr ymennydd, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r driniaeth ar gyfer yr afiechyd angheuol hwn yn y dyfodol,” ychwanegodd Dr Siebzehnrubl. “Afiechyd yw glioblastoma sy’n gwahaniaethu’n eang rhwng gwahanol gleifion, gan felly ei wneud yn anodd iawn ei drin a’i ddeall.
“Mae’r astudiaethau hyn yn darparu model ar gyfer rheoleiddio bôn-gelloedd canser lle gall y boblogaeth hon gael maetholion allweddol wedi’u hymgorffori o fewn eu microamgylchedd cyfagos.
“Dyma enghraifft arall o’r ffordd y gall bôn-gelloedd canser gyfathrebu â’u microamgylchedd er eu twf a’u cadwraeth,” ychwanegodd Dr Justin Lathia o Sefydliad Ymchwil Lerner Clinig Cleveland.
“Mae’r prosiect hwn yn dangos pwysigrwydd cyfuno banciau bio â meithriniadau celloedd gan lawer o gleifion er mwyn datgelu mecanweithiau newydd o fregusrwydd canser y gellid eu troi’n therapïau personol,” ychwanegodd yr Athro Karin Forsberg Nilsson.