Prifysgol Caerdydd a Chynnal Cymru i gynnal Cynhadledd Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy 2019
20 Awst 2019
Cynhelir Cynhadledd Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy 2019 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar 24 a 25 Medi, gan ddod ag ymchwilwyr hinsawdd ac ynni, gweithwyr proffesiynol amgylchedd adeiledig, arbenigwyr polisi a swyddogion llywodraeth ynghyd, i ganolbwyntio ar ddatblygu polisïau ynghylch ynni a charbon isel, a’u rhoi ar waith.
Cynhelir y gynhadledd gan Brifysgol Caerdydd a Chynnal Cymru. Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio fel bydd y pynciau’n galluogi cynadleddwyr i gynyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau ynghylch polisïau a chamau gweithredu i arafu’r newid yn yr hinsawdd, dylunio adeiladau, materion adnewyddu ac ôl-ffitio a pherfformiad adeiladau a deunyddiau.
Bydd SBE19 yn cynnwys sawl cyflwyniad gan siaradwyr uchel eu bri, gan gynnwys: Eluned Morgan AC Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Keith Clarke CBE, Cadeirydd y Fforwm ar gyfer y Dyfodol a Chyfarwyddwr Constructionarium Ltd, a Polly Billington, Cyfarwyddwr UK100. Ynghyd â’r cyflwyniadau, bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys sesiynau mewn grwpiau llai, gweithdai, trafodaeth mewn grwpiau ynghylch y newid yn yr hinsawdd a nifer cyfyngedig o ymweliadau ‘ar leoliad’ yn dangos arferion gorau.
Dechreuodd y Gyfres o Gynadleddau Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy Rhyngwladol yn 2000 ac mae’n gweithredu ar gylch o dair blynedd gan ddechrau gyda blwyddyn o gynllunio, wedi’i dilyn gan flwyddyn o gynadleddau cenedlaethol a rhanbarthol, cyn arwain at ddigwyddiad rhyngwladol yn y drydedd flwyddyn. Mae’r gyfres yn rhoi pwyslais craidd ar bapurau, cyflwyniadau a phapurau polisi rhanbarthol a adolygwyd gan gymheiriaid, arddangosfeydd o brosiectau wedi’u gwerthuso’n flaenorol a nifer fechan o arddangosfeydd masnachol o ansawdd uchel. Hefyd, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cynnwys y papurau technegol gorau o’r cynadleddau cenedlaethol/rhanbarthol drwy lwybr cyflym ar gyfer y digwyddiad rhyngwladol.
Mae modd cofrestru ar-lein ar gyfer y gynhadledd bellach, a gellir talu drwy Borth Digwyddiadau Prifysgol Caerdydd.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan SBE19.