Penseiri Arbor i arwain uned ddylunio MArch II sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsoddol
20 Awst 2019
O fis Medi 2019 ymlaen, bydd y penseiri Elly Deacon SmIth a Matt Hayes o Arbor Architects yn arwain Studio 1.5°, un o unedau MArch II fydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsoddol.
Bydd yr uned yn herio'r sefyllfa sydd ohoni ym maes pensaernïaeth ac yn ystyried atebion ar gyfer amgylchedd arfordirol eithafol.
Yn ôl Elly:
'Rydym yn llawn cyffro am redeg stiwdio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy'n mynd ati’n rhagweithiol i wynebu’r argyfwng hinsoddol. Dyw diffyg gweithredu, hunanfodlonrwydd a gwadu’r broblem ddim yn opsiynau mwyach, yn wyneb argyfwng ecolegol fydd yn peri heriau cymdeithasol, gwleidyddol ac ecolegol heb gynsail. Mae'n bosibl mai ymateb i'r argyfwng hwn gyda'r brys sydd ei angen yw'r her fwyaf a wynebodd dynol ryw erioed.
Mae unrhyw her, fodd bynnag, hefyd yn gyfle. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â rhai o'r meddyliau ifanc mwyaf llachar a chreadigol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i archwilio a datblygu atebion ar gyfer ein diwydiant a'n planed!'
Mae'r uned yn rhan o raglen Astudiaethau Archeolegol (MArch), Prifysgol Caerdydd, rhaglen dwy flynedd sy'n datblygu sgiliau dylunio pensaernïol graddedigion i lefel uwch ac yn cynnig llwybr cwbl achrededig tuag at fod yn bensaer proffesiynol yn y DU.