Hanesydd o Brifysgol Caerdydd yn cyfrannu at Amgueddfa newydd am yr Ail Ryfel Byd ym Mharis
20 Awst 2019
Bydd y bobl a ymladdodd i Ryddhau Paris yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cael eu cofio mewn amgueddfa newydd fawr.
Mae’r Athro Hanna Diamond o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn gynghorwr hanesyddol i Amgueddfa Rhyddhau Paris – Amgueddfa Cadfridog Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin, sydd wedi’i hailwampio, ac sy’n agor ar 25 Awst ym mhrifddinas Ffrainc. Mae’r dyddiad yn nodi 75 o flynyddoedd ers y diwrnod hanesyddol pan ildiodd milwyr y Natsïaid y ddinas.
A hithau’r unig hanesydd o Brydain i gael ei chynnwys yn Conseil Scientifique yr amgueddfa, sef bwrdd cynghorol o haneswyr, curaduriaid ac archifwyr nodedig, mae ymchwil yr Athro Diamond yn canolbwyntio ar brofiadau dynion a menywod Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae tystiolaeth bersonol, ar lafar ac ysgrifenedig, yn allweddol i’w gwaith ac ar hyn o bryd mae hi’n cyhoeddi am y ffyrdd y mae ei defnydd yn llywio dealltwriaeth y cyhoedd o’r gorffennol.
Bydd yr amgueddfa'n canolbwyntio ar arwyr yr Ail Ryfel Byd, Philippe de Hauteclocque a Jean Moulin, yn ogystal ag unigolion allweddol eraill, a'i chartref, sydd wedi'i ailwampio'n ddiweddar, yw pafiliynau Ledoux o’r 18fed ganrif yn Place Denfert-Rochereau, uwchlaw cyn-bencadlys Byddin Gêl Paris. Bydd mwy na 300 o wrthrychau, dogfennau a ffotograffau gwreiddiol, yn ogystal â fideos archifol gan lygad-dystion, yn olrhain digwyddiadau allweddol y cyfnod hwn. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i fynd o gwmpas prif gadarnle cadlywyddion Byddin Gêl Ffrainc, a leolir 100 o gamau o dan yr adeilad, sydd wedi’i adnewyddu’n ffyddlon ac yn gywir.
Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, dywedodd yr Athro Diamond: “Braint fawr fu gweithio gydag Amgueddfa Rhyddhau Paris– Amgueddfa Cadfridog Leclerc – Amgueddfa Jean Moulin ar y prosiect pwysig hwn. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y cyfnod hwn. Dim ond rhan o'r hanes oedd y diwrnod a nododd diwedd y Feddiannaeth yn Ffrainc; mae’r amgueddfa hon yn taflu goleuni ar brofiadau’r bobl a wnaeth hyn yn bosibl a’u cyfraniad at y digwyddiadau a helpodd i lywio’r wlad yr ydym yn ei hadnabod heddiw.
“Hefyd, bydd ymwelwyr o’r DU a thu hwnt yn elwa llawer ar yr hanesion a adroddir yma, gan ddysgu am sut gwnaeth y personoliaethau sylweddol hyn ac eraill ym Myddin Gêl Ffrainc weithredu tuag at fuddugoliaeth. Wrth i ni dynnu at y 75ed pen-blwydd, mae’n addas bod yr hanesion trawiadol o’r adeg hon yn cael eu dal a’u cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Roedd Philippe de Hauteclocque, a adnabyddir fel y Cadfridog Leclerc yn ddiweddarach, yn gadfridog o Ffrainc a arweiniodd y Ail Adran Arfog Ffrengig ar adeg Rhyddhau Paris.
Roedd Jean Moulin yn arwr o Fyddin Gêl Ffrainc a gafodd ei smyglo allan o Ffrainc i Lundain i gwrdd â Charles de Gaulle, arweinydd y “Ffrancwyr Rhydd”. Ym mis Ionawr 1942, cafodd ei barasiwtio yn ôl i Ffrainc, i uno grwpiau gwasgaredig y Fyddin Gêl er mwyn creu Mudiad trefnedig, a helpodd i drechu lluoedd yr Almaen yn ddiweddarach.
Meddai Dr Sylvie Zaidman, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa: "Gwnaethom wahodd Hanna Diamond i ymuno â Bwrdd Cynghori’r Amgueddfa oherwydd ei harbenigedd ar yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei chyfraniad i’r arddangosfa barhaol yn ymwneud ag ymadawiad sifiliaid ym mis Mai/Mehefin 1940 mor gynhyrchiol ein bod wedi penderfynu trefnu arddangosfa benodol ar y testun".
Bydd yr Athro Diamond yn gweithio gyda Dr Zaidman i guradu arddangosfa gyntaf yr amgueddfa, a gynhelir o fis Chwefror y flwyddyn nesaf ymlaen, fydd yn trafod yr ecsodus ac effaith y gorchfygiad ar Baris.