Caerdydd yn ennill 'Prifysgol y Flwyddyn'
5 Tachwedd 2015
Neithiwr, enillodd Prifysgol Caerdydd bedair gwobr – gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn – yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg
Gwaith y Brifysgol i ddatblygu sychwyr gwlyb clinigol gyda GAMA Healthcare oedd yn fuddugol yn y categori Ymchwil a Datblygu.
Enillwyd y Wobr Partneriaeth gan fenter Prifysgol Caerdydd ar y cyd ag IQE, i ddatblygu Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Dyfarnwyd y Wobr Cynnyrch Newydd i Direct Healthcare Services, a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, un o is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd, am ddatblygu matres sy'n helpu i atal briwiau ar y sawdl.
"Blwyddyn arbennig i Brifysgol Caerdydd, sy'n ail yn y DU am effaith ei gwaith ymchwil," meddai'r beirniaid, a wnaeth hefyd gydnabod cyfraniad Caerdydd at economi Cymru. Yn ôl adroddiad annibynnol diweddar, mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu £2.7bn i economi'r DU bob blwyddyn, gan gynhyrchu dros £6 am bob £1 y mae'n ei gwario.
Meddai’r Athro Hywel Thomas, y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: “Rydym yn falch iawn o ennill y gwobrau hyn. Maent yn amlygu doniau ein hymchwilwyr a sut mae ein hymagwedd strategol at arloesedd ac ymgysylltiad yn rhoi manteision cymdeithasol ac economaidd i Gymru a thu hwnt. Rydym yn creu diwylliant sy’n hyrwyddo dyfeisgarwch, cymhwysedd a chynhyrchedd. O dan arweiniad myfyrwyr entrepreneuraidd, bydd ein campws arloesedd £300m yn helpu i droi ymchwil yn atebion ymarferol, gan drawsnewid ein gwaith a hybu twf economaidd.”
Cynhelir y Gwobrau gan Insider Media, ac maent yn dathlu cydweithio rhwng cwmnïau, prifysgolion a cholegau. Daeth cannoedd o gynrychiolwyr o'r diwydiant a'r byd academaidd i'r digwyddiad yng Ngwesty'r Marriott.
Bu golygydd Insider, Douglas Friedli, arweinydd y noson, yn canmol y "ffyrdd gwych y mae cwmnïau, prifysgolion a cholegau yn gweithio gyda'i gilydd yng Nghymru."
"Yn 2014, fe wnaeth prifysgolion a'u myfyrwyr gynhyrchu oddeutu £4.6bn o allbwn Cymru. Wrth ystyried y colegau hefyd, dyma ran fawr o'r economi, sy'n tyfu. Daw'r effaith economaidd honno'n fwyfwy amlwg pan fo prifysgolion a cholegau'n gweithio gyda chwmnïau i greu cynnyrch gwych, i roi hwb i gynhyrchiant ac i ddatblygu sgiliau i'r dyfodol."