Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Economi Wleidyddol Uwchgenedlaethol 2019

16 Awst 2019

Flag pictured in front of buidling
Luis' thesis demonstrated the pressures for tax reform created by capital mobility in the European Union and the wider world.

Bydd cyn ymgeisydd doethurol o Brifysgol Caerdydd yn derbyn Gwobr Economi Wleidyddol Uwchgenedlaethol 2019 i gydnabod ei draethawd ymchwil PhD rhagorol ym maes economeg.

Anelir y wobr, a drefnir gan Adran Economeg a Rheoli Prifysgol Pavia, yr Eidal, at ysgolheigion ifanc sy'n ymwneud ag astudiaethau ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau uwchgenedlaethol o integreiddio economaidd a gwleidyddol.

Mae Dr Luís Andre Pinheiro De Matos, a amddiffynnodd ei draethawd yn llwyddiannus yn Ysgol Busnes Caerdydd yn 2018  bellach wedi sicrhau cymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Pompeu Fabra ac Ysgol Graddedigion Economeg Barcelona. Mae hefyd yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil mewn Iechyd ac Economeg.

Teitl ei draethawd oedd Essays on Fiscal Federalism, ac fe'i goruchwyliwyd gan yr Athro James Foreman-Peck. Roedd yn edrych ar effeithiau cynyddu symudedd cyfalaf a chystadleuaeth rhyngawdurdodaethol ar bolisi ariannol.

Ar ôl ystyried rhestr fer o dri chyflwyniad gan ymchwilwyr ar draws Ewrop, penderfynodd y pwyllgor fod gwaith Dr Pinheiro De Matos yn gyfraniad gwreiddiol i ysgolheictod ar yr economi wleidyddol uwchgenedlaethol.

“Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth deilwng o gyflawniad Luis gan ddangos, ymhlith pethau eraill, y pwysau am ddiwygiadau treth a grëwyd gan symudedd cyfalaf yn yr Undeb Ewropeaidd a'r byd ehangach.”

Yr Athro James Foreman-Peck Emeritus Professor

Ceir gwobr ariannol o €3,000 i gyd-fynd a'r wobr glodfawr.

Dywedodd Dr Pinheiro De Matos: “Mae'n anrhydedd cael derbyn Gwobr Economi Wleidyddol Uwchgenedlaethol 2019 am fy nhraethawd PhD. Hoffwn yn benodol ddiolch i fy ngoruchwylwyr, yr Athro James Foreman-Peck a'r Athro Akos Valentinyi, am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol fy astudiaethau PhD, yn ogystal â fy nghydweithwyr PhD, y gyfadran a'r holl staff yn Ysgol Busnes Caerdydd.

“Rwyf i wedi mwynhau gweithio yn y maes ymchwil hwn yn arw dros y blynyddoedd a byddaf yn ceisio datblygu fy syniadau ymhellach ar integreiddio Ewropeaidd a diwygiadau treth...”

“Rwy'n credu y gallai'r corff hwn o ymchwil helpu i ddod â dealltwriaeth newydd diddorol i lunwyr polisïau mewn cyfnod pan fo gwledydd Ewrop - a'r Undeb ei hun - yn wynebu heriau digynsail.”

Dr Luís Andre Pinheiro De Matos Ysgol Graddedigion Economeg Barcelona

Rhannu’r stori hon

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i gymuned ymchwil ac academaidd yr Ysgol.