Anrhydeddu’r Athro Sioned Davies
15 Awst 2019
Yn ystod derbyniad graddio Ysgol y Gymraeg eleni cyhoeddwyd gwobr newydd yn enw’r Athro Sioned Davies, sydd wedi ymddeol ar ôl 40 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd Gwobr Sioned Davies yn cael ei dyfarnu i’r myfyriwr sy’n llunio’r traethawd estynedig gorau ar raglen MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.
Wrth gyflwyno’r wobr gyntaf eleni, dywedodd Dr Dylan Foster Evans, a olynodd yr Athro Davies fel Pennaeth Ysgol y Gymraeg yn 2017: “Mae’n amhosib gorbwysleisio cyfraniad a dylanwad Sioned dros 40 mlynedd yn y Brifysgol ac 20 mlynedd fel Pennaeth Ysgol y Gymraeg. Mae wedi chwarae rôl hanfodol bwysig yn natblygiad disgyblaeth y Gymraeg yn ogystal â chyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol ym maes polisi iaith yng Nghymru.
“O dan ei harweinyddiaeth, tyfodd Ysgol y Gymraeg o ran maint ac ansawdd, gan gwmpasu ystod o feysydd, o astudiaethau canoloesol (sef maes arbenigol Sioned) i gynllunio ieithyddol.
“Mae creu'r wobr newydd hon yn enw Sioned yn fodd i ddathlu ei chyfraniad, diolch iddi hi am ei holl waith dros y blynyddoedd a chydnabod ei dylanwad trawsnewidiol ar genedlaethau o fyfyrwyr. Dymunwn bob hwyl iddi wrth iddi ymddeol ond bydd hi wastad yn rhan annatod o gymuned yr Ysgol.”
Gwobr gyntaf
Enillydd Gwobr Sioned Davies 2019 oedd Judith Musker Turner, am ei thraethawd hir â’r teitl: ‘Yng Nghledr y Clyw: Gwybyddiaeth Ymgorfforol a’r Broses o Farddoni’. Roedd y gwaith hwn yn brosiect creadigol, beirniadol ac, arbrofol. Aeth Judith ati i gyfansoddi ei barddoniaeth drwy wnïo geiriau ar wisg a maneg yn hytrach nag ysgrifennu ar bapur neu deipio ar gyfrifiadur. Dyma oedd ffrwyth ymchwil cwbl wreiddiol ac amlddisgyblaethol a oedd yn cyfuno beirniadaeth lenyddol a gwyddoniaeth wybyddol gan arwain at ddealltwriaeth newydd o’r broses greadigol.