Blas ar fywyd yn y brifysgol
13 Awst 2019
Bu myfyrwyr chweched dosbarth o bob rhan o'r DU yn mwynhau blas ar fywyd prifysgol mewn dosbarth meistr astudiaethau busnes ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019.
Cafodd y disgyblion, o Ysgol Cas-gwent yn Sir Fynwy, Ysgol Howell’s a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd, Ysgol Merched Kesteven and Grantham yn Swydd Lincoln, Ysgol Uwchradd Aylesbury yn Swydd Buckingham a Choleg Queen Mary yn Basingstoke, raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Nghanolfan Addysgu fodern Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd.
Yn ogystal â chael taith o gyfleusterau rhagorol yr Ysgol, bu'r disgyblion yn:
- derbyn awgrymiadau ar sut i wneud eu cais UCAS ragori.
- cyfarfod â myfyrwyr israddedig i glywed sut beth yw bywyd prifysgol mewn gwirionedd.
- mynd i ddarlithoedd a gyflwynwyd gan arbenigwyr marchnata, cyfrifeg, economeg a logisteg yr Ysgol.
Elfen boblogaidd bob amser yn y dyddiau blasu ac i ddeiliaid cynigion yn yr Ysgol yw'r cyfle i roi cynnig ar ystafell fasnachu fodern yr Ysgol. Dyma'r lleoliad mwyaf o'i fath yng Nghymru, gyda 56 terfynell Bloomberg i fyfyrwyr gael profi cyffro'r farchnad stoc mewn amgylchedd rheoledig.
Ac roedd hyn yn wir unwaith eto gyda'r disgyblion yn dod at ei gilydd i gystadlu mewn cyfres o ffug-gemau marchnad stoc mewn amser real.
Dywedodd Edwin, o Ysgol Cas-gwent, sy'n gobeithio astudio busnes yn y brifysgol: "Cefais gipolwg gwych ar y daith hon o fywyd prifysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd."
Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Carolyn Strong, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Rheoli Busnes, Dr Eleri Rosier, Cyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr a Lowri Griffith, Rheolwr Derbyn a Recriwtio.
Dywedodd Dr Strong: “Roedd yn bleser croesawu myfyrwyr Blwyddyn 12 i'r Ysgol i'n dosbarth meistr astudiaethau busnes. Gobeithio fod y cyfle i brofi addysgu israddedig wedi bod yn fuddiol iddyn nhw a'u bod wedi cael blas ar addysg prifysgol...”