Gwobr Roland Calori 2019
12 Awst 2019
Mae Darllenydd Rheoli Adnoddau Dynol ac Athro Dadansoddi Sefydliadol o Ysgol Busnes Caerdydd wedi derbyn Gwobr Roland Calori 2019 am eu papur ymchwil ar dwyll mewn canolfan alw.
Cyflwynwyd y wobr, sydd wedi'i dyfarnu bob dwy flynedd ers 2003, i Dr Sarah Jenkins a'r Athro Rick Delbridge yn 35ain Colocwiwm Grŵp Astudiaethau Sefydliadol Ewrop (EGOS) yng Nghaeredin, yr Alban.
Mae'r papur buddugol, a grëwyd i dalu teyrnged i'r Athro Roland Calori a'i gyfraniadau amhrisiadwy i EGOS, Ysgol Busnes Emlyon a'r cyfnodolyn academaidd Organisation Studies, yn arddangos ansawdd methodolegol ac arloesedd damcaniaethol gan adlewyrchu'r amrywiaeth o safbwyntiau gwyddorau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â sefydliadau a’r rhai a drefnir.
Mae papur a gyd-awdurwyd gan Dr Jenkins a'r Athro Delbridge: Trusted to Deceive: A Case Study of ‘Strategic Deception’ and the Normalization of Lying at Work, yn trafod achos VoiceTel, arweinydd marchnad ym maes busnes derbyn rhithiol ansawdd uchel.
Roedd twyll yn gonglfaen ym musnes VoiceTel o'r dechrau ac yn allweddol i'w lwyddiant parhaus.
Yn ystod eu hastudiaeth, bu'r ymchwilwyr yn edrych ar sut mae celwydd yn dod yn rhan o'r sefydliad, yn cael ei resymoli a'i gymdeithasoli i strwythur a diwylliant sefydliad i'r graddau ei fod yn ymwreiddio, yn cael ei gynnal a'i gryfhau dros amser fel rhan ddilys a hanfodol o'r swydd.
Wrth sôn am gydnabyddiaeth y wobr i'r papur, dywedodd Dr Jenkins: “Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran Rick a fi drwy ddweud mai syndod oedd ein hymateb i'r wobr. Gan fod cynifer o bapurau da ar y rhestr fer, doedden ni ddim wedi disgwyl ennill…”
Yn ysbryd gwaith Roland Calori ei hun, mae'r wobr yn adlewyrchu plwraliaeth mewn traddodiadau ymchwil ac amrywiaeth paradeimau. Ceir gwobr ariannol hefyd o €2,000 a noddir gan Ysgol Busnes Emlyon.
Ceir rhagor o wybodaeth am ymchwil Dr Jenkins a'r Athro Delbridge yma.