Ymddiriedolaeth Wellcome yn dyfarnu cyllid i ymchwil clefydau sy’n gysylltiedig â NEAT1
15 Awst 2019
Mae Cronfa Cefnogaeth Strategol i Sefydliadau gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome wedi dyfarnu dros £48,000 i Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i darged newydd ar gyfer ystod o glefydau.
Mae NEAT1 yn foleciwl biolegol a welir yn y mwyafrif o gelloedd yn y corff dynol sy’n gysylltiedigâ chlefyd. Mae cyllid newydd gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn galluogi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i driniaethau sy’n targedu’r moleciwl hwn, ac i wella therapïau yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Tatyana Shelkovnikova, o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Mae gweithgarwch anghyffredin moleciwl NEAT1 yn gysylltiedig â llawer o glefydau, gan gynnwys canser a chlefydau niwrolegol.
“Rydym yn gweld lefelau annormal o NEAT1 mewn amrywiaeth o glefydau, ac felly mae ganddo lawer o botensial fel targed therapiwtig.
“Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes cyffuriau ar gael sy’n targedu NEAT1 yn benodol.
Bydd Cronfa Cefnogaeth Strategol i Sefydliadau gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn cefnogi ymchwil i ganfod cyffuriau newydd a fyddai’n targedu NEAT1 yn effeithiol.
“Unwaith y byddwn wedi prosesu cemegyn newydd sy’n targedu NEAT1, byddwn yn gallu profi hyn ar fodelau dynol yn ein labordai, yn benodol i fonitro ei effeithiau ar gelloedd tiwmor a niwronau.
“Mae’r arian hwn yn cefnogi prosiect sydd gyda’r potensial i lywio datblygiad dosbarth newydd o gyffuriau,” ychwanegodd Dr Tatyana Shelkovnikova.