Gwella profiad staff yn eithriadol
9 Awst 2019
Yn ogystal â dathliad blynyddol Diwrnod y Gymuned yng nghategori Gwella Profiad Staff yn Eithriadol, mae menter Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol o dan adain Justine Jenkins ac un Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Materion Diwylliannol gan Joanne Marshall-Stevens.
Diben y wobr yw cydnabod mentrau gan unigolion a thimau’r Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer gwella byd staff Prifysgol Caerdydd.
Detholir yr enillydd gan banel o feirniaid a fydd yn asesu natur arloesol ac effaith pob cynnig wrth bennu pa rai sydd wedi helpu i gymathu lles y staff ym meddylfryd y sefydliad yn ogystal â chyfrannu yn eithriadol ynghylch gofalu bod staff yn cael eu cynorthwyo, eu cefnogi a’u galluogi i lwyddo yn eu rolau.
Achlysur cymdeithasol
Deilliodd Diwrnod y Gymuned o fwriad Bwrdd Rheoli Cysgodol yr Ysgol i roi cyfle i’r staff, y myfyrwyr a phobl gysylltiedig eraill rannu eu gweithle gyda eu teuluoedd a’u cyfeillion ar achlysur cymdeithasol.
Yn ystod y ddwy flynedd ers sefydlu’r achlysur, mae pobl wedi mwynhau gwerthiannau teisenni, cerddoriaeth fyw, gêmau, celfyddydau, crefftau, gweithgareddau paentio wynebau, ioga, sioeau cŵn, teithiau yng ngherbydau’r gwasanaeth tân ac achub lleol ac arddangosfeydd cŵn a cherbydau Heddlu’r De.
Bydd yr Ysgol yn rhoi’r holl incwm a ddaw o’r achlysur i Llamau, yr elusen mae’n ei noddi eleni.
Meddai’r Dr Carolyn Strong, Darllenydd Marchnata a Strategaethau yn Ysgol Busnes Caerdydd ac un o drefnwyr yr achlysur: “Mae’n dda gyda ni fod ar restr fer Gwobr Dathlu Rhagoriaeth am achlysur sydd wedi bod yn elfen arbennig iawn o’r Ysgol dros y ddwy flynedd diwethaf...”
“Dyma ein ffordd ni o ddiolch i gydweithwyr am eu gwaith dyfal yng ngŵydd eu perthnasau a’u cyfeillion.”
Rhagori ar y safon
Bydd y seremoni wobrwyo flynyddol yn cydnabod staff Prifysgol Caerdydd sydd wedi gweithio’n eithriadol mewn amryw gategorïau.
Mae pwyllgor trefnu’r gwobrau wedi cyflwyno tri chategori newydd ar gyfer 2019:
- Rhagoriaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
- Rhagoriaeth Cyfraniadau Gwirfoddol.
- Rhagoriaeth Cynnig Gwasanaethau.
Bydd gwobr ychwanegol, Seren ar Gynnydd, yn cydnabod cyfraniad un o staff y Gwasanaethau Proffesiynol ochr yn ochr â chydweithiwr academaidd cymharol ddibrofiad.
Cyhoeddir yr enillwyr eleni yn ystod cinio dathlu ar 14eg Tachwedd yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr, Park Place, Caerdydd CF10 3QN.