Llwybr at Wleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
14 Awst 2019
Mae’r llwybr hwn yn gyfwerth â 50% o flwyddyn gyntaf gradd a’r bwriad yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr astudio ar gyfer gradd cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd y myfyrwyr yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth gyfoes ac yn cael y cyfle i fyfyrio ar benderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar fywydau pobl, wrth iddynt ddigwydd. Er enghraifft, cyfarfu myfyrwyr y llynedd yn y Senedd i drafod Brexit. Dywedodd Dr Craig Gurney, tiwtor y cwrs:
“Roedd ein taith i’r Senedd, cartref Llywodraeth Cymru, yn boblogaidd iawn. Mae’r cwrs yn cyfeirio’n helaeth at drafodaethau ynghylch pasio deddfau yma, felly bu’n gyfle gwych i fyfyrwyr weld y siambr lle mae’r Biliau’n cael eu trafod cyn troi’n Ddeddfau. Roedd rhan o’r asesiad dysgu yn y modiwl yn adolygiad “ar ddull Andrew Marr” o bapurau’r bore. Dewisais i’r diwrnod ar ôl y dyddiad Brexit gwreiddiol, oherwydd roeddwn yn gwybod y byddai hen ddigon o ddeunyddiau y gallem ni eu trafod!”
Yn rhan o’r llwybr, mae’r myfyrwyr yn astudio modiwlau sy’n cynnwys: Cyflwyniad i Gysylltiadau Rhyngwladol, System Gyfreithiol Lloegr a Chyfraith Ewrop a 1989: Blwyddyn Hollbwysig i Ewrop sy’n cynnig sail gadarn o wybodaeth i gyflawni gradd arni.
Myfyrwyr y llwybr yw ein heiriolwyr gorau:
“Mae astudio ar y llwybr hwn wedi agor cynifer o ddrysau i mi, gan fod Caerdydd yn brifysgol o fri. Mae’r llwybr wedi fy helpu i wella fy ngwybodaeth ac mae mynd i gynifer o ddosbarthiadau wedi fy helpu cymaint, ac rydw i wedi magu dealltwriaeth well o’r hyn rydw i am ei wneud ac ynghylch yr hyn sy’n digwydd yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i ddeall beth sy’n digwydd yma yng Nghymru. Mae wedi rhoi dealltwriaeth lawer o well i mi ynghylch sut i ysgrifennu traethodau ac wedi fy mharatoi ar gyfer astudio yn y dyfodol.” - Nelson Amaral
“Amlinellodd y cwrs ddarlun clir o ddatganoli a pha mor bwysig ydyw yng Nghymru. Hefyd, fe helpodd fi i gymryd rhan mewn trafodaethau da am Brexit, sy'n bwnc llosg eleni felly roedd yn adeg dda iawn i fod yn astudio'r modiwl hwn yn fy marn i. Rydw i'n meddwl bod y modiwl hwn yn hynod ddiddorol.” - Mario Barbantini Scanni
Graddiodd Simba Chabarika o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn 2019. Dechreuodd ei radd ar ôl cwblhau’r Llwybr.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r llwybr ac yn enwedig i Jan Stephens am ei chyngor, ei chefnogaeth a’i hanogaeth, ac wrth gwrs, i’r tîm bendigedig o diwtoriaid wnaeth ein paratoi ar gyfer yn hyn oedd i ddod ar y cwrs gradd!”
Mae’r cwrs llwybr yn ysbrydoliaeth fawr i’r rheini sydd am fynd â’u haddysg ymhellach. Ni feddyliais erioed y gallwn gyflawni’r fath lwyddiant, tan i’r cwrs ddatgelu fy mhotensial go iawn i mi!”
Os hoffech astudio’r Llwybr hwn, dewch i’n Diwrnod Agored ddydd Mercher 11 Medi am 12.00 tan 14.00 ac am 17.00 tan 19.00 i drafod y cyfle hwn neu cysylltwch â Jan Stephens
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan hefyd.