Ewch i’r prif gynnwys

Gwahodd myfyriwr israddedig yn ei flwyddyn olaf i gynhadledd o'r radd flaenaf

14 Awst 2019

Rhy's final year project, an IoT Skullfort.

Cafodd myfyriwr wahoddiad i UbiComp 2019 o ganlyniad i’w bapur.

Cafodd Cyd-Gynhadledd Ryngwladol ACM ar Gyfrifiadura Treiddiol a Hollbresennol (UbiComp) ei ffurfio drwy uno'r ddwy gynhadledd enwocaf yn y maes: Pervasive ac UbiComp. Mae UbiComp 2019 yn gynhadledd lefel uchel a rhaglen amlddisgyblaethol aml-drac.

Datblygodd myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn, Rhys Beckett, bapur poster yn seiliedig ar cosplay wedi'i gysylltu â'r we a'r effaith bosibl y gallai technoleg Rhyngrwyd Pethau (IoT) ei chael ar y gymuned cosplay.

Mae’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) yn cyfeirio at ryng-gysylltiad dyfeisiau cyfrifiadurol sydd wedi'u hymgorffori mewn gwrthrychau bob dydd trwy'r Rhyngrwyd, gan eu galluogi i anfon a derbyn data.

Datblygodd Rhys helmed IoT Skullfort o'r gêm fideo ar-lein boblogaidd Destiny 2 a sefydlu technoleg IoT i wella ei alluoedd a'i ryngweithio â defnyddwyr. Defnyddir technolegau synhwyro yn helaeth mewn llawer o wahanol barthau y gellir eu gwisgo, gan gynnwys senarios cosplay.

Dywedodd Rhys, “Rwy'n edrych ymlaen at fynd i’r gynhadledd yn Llundain ond yn nerfus hefyd.  Rwy'n falch fy mod i wedi cael fy nerbyn, er fy mod i'n fyfyriwr BSc. Fy nod yw dod â mwy o sylw academaidd i cosplay, gan ddatgelu rhai o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r broses o greu gwisgoedd."

Mae'r posteri yn cynrychioli arloesedd y rhaglen UbiComp/ISWC. Yn dilyn y traddodiad hir, cynhyrchiol o gyflwyniadau poster, mae UbiComp 2019 yn gofyn am gyflwyniadau ar gyfer Rhaglen Posteri sy'n cynnwys gwaith ymchwil cynnar a chanlyniadau rhagarweiniol.

Bydd y Sesiwn Poster yn cynnig cyfle gwych i gael adborth ar ganlyniadau ymchwil cynnar ac yn rhoi gwelededd cychwynnol i brosiectau parhaus ymhlith y gynulleidfa academaidd a diwydiannol.

Mae'r gynhadledd wedi'i lleoli yng Nghanolfan QEII yng nghanol Llundain a chaiff ei chynnal rhwng 11-13 Medi 2019.

Rhannu’r stori hon