Cysylltiad rhwng newidiadau i berfedd eirth gwyn ac enciliad iâ môr yr Arctig
6 Awst 2019
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd ac Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, mae enciliad iâ môr yr Arctig yn newid bacteria perfedd eirth gwyn, a allai gael goblygiadau negyddol ar iechyd hirdymor y rhywogaeth.
Eirth gwyn yw un o'r mamaliaid morol yn yr Arctig sy'n dibynnu fwyaf ar iâ, ac maent yn ddangosyddion allweddol o newid iechyd ac amgylcheddol ecosystem yr Arctig. Ers dechrau'r ganrif, mae gostyngiadau dramatig i iâ môr wedi achosi rhaniad mewn ymddygiad eirth gwyn deheuol Môr Beaufort, gyda rhai yn parhau i ddilyn iâ môr sy'n encilio (eirth ar y môr) ac eraill yn mabwysiadu ymddygiad newydd ac yn mudo i gynefinoedd arfordirol ar y tir (eirth y tir).
I ddeall effaith fiolegol bosibl y newid ymddygiadol hwn, fe wnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ddadansoddi dros 100 o samplau ysgarthol eirth gwyn, yn edrych yn benodol ar gyfansoddiad bacteriol microbiota'r perfedd, a sut mae hyn yn wahanol rhwng eirth gwyn ar y môr ac ar y tir.
"Rydym wedi canfod bod amrywiaeth a chyfansoddiad microbiota'r perfedd yn wahanol iawn mewn eirth gwyn ar y tir o'i gymharu â'r rhai hynny sy'n aros ar iâ'r môr drwy'r flwyddyn, gan ddangos am y tro cyntaf bod newidiadau sy'n cael eu hysgogi gan newid byd-eang yn gysylltiedig â newidiadau yn y perfeddyn," esboniodd Sophie Watson, ymchwilydd PhD o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos, yn wyneb newid hinsoddol cyflym, bod uniadau microbiota o fewn y perfedd yn prysur ddatgyplu, gyda'r potensial o ddinistrio miloedd o flynyddoedd o addasiadau cyd-esblygol."
Eglurodd Dr Sarah Perkins o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd beth oedd arwyddocâd y canfyddiadau:
"Mae gan ficrobiota'r perfedd rôl hanfodol mewn iechyd eirth gwyn. Mewn rhai achosion, gallai newidiadau yn amrywiaeth a chyfansoddiad cymunedau bacteriol y perfedd fod yn niweidiol i iechyd unigol, ac mae angen gwneud gwaith pellach i ddeall sut mae'r gwahaniaethau hyn yn effeithio ar eirth gwyn.
"Mae deall y ffyrdd y mae eirth gwyn yn ymateb i ddadleoliad o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i ddeall a fydd y rhywogaeth yn gallu ymdopi ag amgylchedd sy'n fwyfwy anrhagweladwy ac ansefydlog."
Mae 'Global change-driven use of onshore habitat impacts polar bear faecal microbiota' wedi'i gyhoeddi yn The ISME Journal.