Sganiwr MRI mwyaf pwerus Cymru yn cyrraedd Caerdydd
2 Tachwedd 2015
Sganiwr newydd £6M i ganfod clefyd yr ymennydd
Mae sganiwr MRI enfawr gwerth £6m sydd â gallu eithriadol i ganfod clefyd yn yr ymennydd dynol wedi cyrraedd Prifysgol Caerdydd.
Cyfeirir ar y sganiwr MRI fel system '7T', gan fod y magnet y tu mewn iddo yn 7 Telsa (Telsa = uned o gryfder maes magnetig). Bydd yn helpu ymchwilwyr yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) i astudio amrywiaeth o anhwylderau niwroddirywiol a seiciatryddol gan gynnwys dementia, sgitsoffrenia ac iselder.
Mae'r 7T yn pwyso 40 tunnell a dyma'r trydydd o'i fath yn y DU.
Siemens Healthcare sydd wedi'i ddarparu a bydd yn helpu i ganfod afiechyd yn gynnar a datblygu ac i ddatblygu a monitro therapïau newydd.
Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: "Dyfodiad y sganiwr 7T newydd yw'r cam mawr nesaf yn esblygiad CUBRIC. Bydd yn gwella ein gallu i wneud ymchwil o ansawdd uchel, ac yn ein helpu i ddeall mecanweithiau anhwylderau fel dementia, awtistiaeth ac anableddau dysgu. Mae gweithio gyda GIG Cymru a byd diwydiant yn ein helpu i ddod ag uwch dechnoleg yn nes at gleifion."
Cyfrinach technoleg sganio 7T yw cryfder ei fagnet enfawr, sy'n helpu i greu delweddau manylach o'r ymennydd dynol, a gall leihau amserau sganio i gleifion. Mae'r magnet 7T tua 7 gwaith yn gryfach na'r magnetau a ddefnyddir i godi ceir mewn iardiau sgrap, ac mae'n cynhyrchu delweddau cydraniad uchel iawn.
Techneg sy'n dangos strwythurau mewnol y corff yw MRI – neu Ddelweddu Cyseiniant Magnetig. Gall wahaniaethu rhwng meinweoedd meddal, ac fe'i defnyddir yn aml i ddelweddu'r ymennydd, cyhyrau, a'r galon. Mae'n dechneg lle nad oes angen llawdriniaeth, ac erbyn hyn dyma'r dull delweddu a ddefnyddir fwyaf ym maes niwrowyddoniaeth.
Mae'r sganiwr newydd yn garreg filltir arall wrth gwblhau cyfleuster ymchwil newydd CUBRIC ar Gampws Arloesi Caerdydd ar Ffordd Maendy. Bydd yn agor yng ngwanwyn 2016.