Ewch i’r prif gynnwys

Ymwelwyr rhyngwladol yn llunio’r ffordd ymlaen i brosiect Ocado

31 Gorffennaf 2019

Man delivering seminar in classroom

Cafodd Ysgol Busnes Caerdydd y fraint o groesawu’r Athro Joseph Sarkis a’r myfyriwr PhD Samuel Allen o Ysgol Busnes Foisie Sefydliad Polytechnig Worcester yn Massachusetts, a Dr Tian Xu o Ysgol Amgylcheddol Prifysgol Shanghai Jiao Tong rhwng 16 a 19 Gorffennaf 2019.

Ar fore 16 Gorffennaf, cynhaliodd yr Athro Joseph Sarkis seminar i drafod hynt a helynt cyhoeddi papurau, yn arbennig mewn cyfnodolion o ansawdd.

Fe aeth i’r afael â’r cwestiwn ‘Beth sydd ei angen arnoch chi i gyhoeddi?’ gan gynghori’r rheiny a oedd yn bresennol i gyflwyno’r ddadl fod eu papur yn amserol ac yn gyfredol, yn bwysig i gymdeithas, yn cyd-fynd â chwmpas y cyfnodolyn ac y bydd y farchnad a’r darllenwyr yn ei hoffi.

Yna, canolbwyntiodd yr Athro Sarkis ar enghreifftiau o ymchwil parhaus gan fanylu ar ddau bapur yr oedd wedi cydweithio arnynt gydag academyddion Ysgol Busnes Caerdydd.

  1. Papur damcaniaethol ar wastraff bwyd, sydd wrthi’n cael ei adolygu mewn cyfnodolyn o ansawdd, wedi’i ysgrifennu gan Vasco Sanchez Rodrigues, Emrah Demir, Xun Wang a Joseph Sarkis.
  2. ‘Maritime Container Shipping: Does Coopetition Improve Cost and Environmental Efficiencies’, wedi’i ysgrifennu gan Andrew Trapp, Irina Harris, Vasco Sanchez Rodrigues a Joseph Sarkis.

Gwahanol ddulliau a safbwyntiau

Yn y prynhawn, arweiniodd Joseph Sarkis, Tian Xu a Samuel Allen weithdy ar ‘Gadwyni Cyflenwi Cynaliadwy’.

Roedd y sesiwn yn trafod safbwyntiau’r ymwelwyr ar y pwnc.

Cyflwynodd yr Athro Sarkis ei farn arbenigol ar beth yw’r tueddiadau cyfredol a thueddiadau’r dyfodol ym maes rheoli cadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Mae gwaith ymchwil Samuel Allen yn canolbwyntio ar wastraff bwyd a sut y mae’n peri her sylweddol i gynaliadwyedd. Cyflwynodd gymhwysiad dynameg system o leihau a chael gwared ar wastraff bwyd.

Trafododd Tian Xu bod angen dangosyddion mwy cynhwysfawr i werthuso masnachu sy’n ategu gwerth economaidd seiliedig ar y farchnad. Daeth â’r gweithdy i’r ben drwy gyflwyno dull egni ac yna egluro ‘eMergy’ fel rhywbeth sy’n ategu masnach neu werthusiad economaidd.

Prosiect Ocado – dechrau arni

Four men wearing high-visibility jackets in a warehouse

Ar 17 Gorffennaf, aeth Joseph Sarkis, Samuel Allen, Vasco Sanchez Rodrigues a Xun Wang i ymweld â phrif swyddfa a chanolfan foddhad Ocado yn Hatfield, wrth iddynt ddechrau gweithio ar eu prosiect ymchwil ar y cyd i leihau a chael gwared ar wastraff bwyd yn y gadwyn cyflenwi.

Mae Ocado yn ariannu ail gylch o waith ymchwil gydag Ysgol Busnes Caerdydd i ddatblygu a phrofi modelau i fesur ac i optimeiddio gwastraff bwyd yn eu cadwyn cyflenwi.

Dyma oedd ymgysylltiad cyntaf y tîm prosiect newydd ag Ocado i ddechrau ar y prosiect. Yn ogystal â’r daith o’r ganolfan boddhad cwsmeriaid, cawsant hefydd gwrdd â thîm Ocado er mwyn helpu i gwmpasu a dylunio’r prosiect.

Dywedodd Dr Vasco Sanchez Rodrigues, Uwch-ddarlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Dechreuodd ein cydweithio rhyngwladol â’r Athro Joseph Sarkis yn 2015 ac mae wedi bod yn datblygu’n sylweddol ers hynny...”

“Mae’r allbynnau academaidd a diwydiannol sydd wedi’u cynhyrchu, yn ogystal ag arian sydd wedi’i greu drwy brosiectau Ocado ar leihau a chael gwared ar wastraff bwyd, wedi galluogi ein cydweithio â’r Athro Sarkis ymhellach.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Pennaeth yr Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau
Athro mewn Rheoli Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy

Meddai’r Athro Joseph Sarkis, arbenigwr Gweithrediadau, Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi a Chynaliadwyedd o Ysgol Busnes Foisie Sefydliad Polytechnig Worcester yn Massachusetts: “Mae bwyd yn hanfodol i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae bwyd yn angen sylfaenol a hanfodol ar gyfer cynnal a chynaliadwyedd, ac mae diogelwch ein cyflenwad bwyd yn dibynnu ar reoli ein gwastraff bwyd...”

“Mae gormod o fwyd yn cael ei wastraffu ac mae Ocado, gyda’i ddulliau gweithredu, yn lleihau gwastraff bwyd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon. Mae canfod sut y gallwn ni helpu yn rhan bwysig o’r cydweithio hwn.”

Yr Athro Joseph Sarkis Ysgol Busnes Foisie Sefydliad Polytechnig Worcester yn Massachusetts

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.

Related news

Innovation Impact

Arloesedd mewn Busnes

10 Gorffennaf 2019