Adnoddau dŵr daear yn Affrica yn wydn yn wyneb y newid yn yr hinsawdd
8 Awst 2019
Dŵr daear – ffynhonnell hanfodol o ddŵr yfed a dyfrhau ar draws Affrica Is-Sahara – yn wydn yn wyneb amrywioldeb a newid hinsoddol, yn ôl astudiaeth newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain (UCL).
Cynhaliwyd yr ymchwil gan gonsortiwm o 32 o wyddonwyr o ledled Affrica a thu hwnt, a chafodd ei chyhoeddi yn Nature. Mae’n dangos sut mae ailgyflenwi dŵr daear yn dibynnu ar lawiadau trwm a llifogydd, sy’n cael eu mwyhau gan y newid yn yr hinsawdd.
Mae dŵr daear yn chwarae rôl ganolog mewn cynnal cyflenwadau dŵr a bywoliaethau yn Affrica Is-Sahara oherwydd ei fod ar gael yn helaeth, ac o ansawdd da yn gyffredinol, ac oherwydd ei allu cynhenid i leddfu cyfnodau o sychder ac amrywioldeb hinsoddol cynyddol.
Yn rhan o’r ymchwil, casglwyd cofnodion lefelau dŵr daear a glawiadau o sawl degawd at ei gilydd i ystyried sut mae ailgyflenwi dŵr daear wedi ymateb i amrywiadau o ran yr hinsawdd a daeareg. Dadansoddodd y tîm arsylwadau a grynhowyd gan naw gwlad ar draws Affrica Is-Sahara, er mwyn cynrychioli ystod o hinsoddau, o gras iawn i laith.
Mae’r astudiaeth yn dangos bod dŵr daear yn cael ei ailgyflenwi gan law sy’n treiddio drwy arwyneb y tir yn bennaf mewn ardaloedd llaith, tra bod ailgyflenwi’n digwydd drwy nentydd a phyllau dros dro yn bennaf mewn ardaloedd sych. Mae daeareg leol hefyd yn chwarae rôl mewn pennu sensitifrwydd cyfraddau ailgyflenwi i newidiadau yn yr hinsawdd.
Dywedodd Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, a chyd-arweinydd yr astudiaeth: “Mae asesiadau blaenorol o adnoddau dŵr daear ar lefel ranbarthol drwy ddefnyddio modelau graddfa-fawr wedi anwybyddu cyfraniad nentydd a phyllau tuag at ailgyflenwi dŵr daear, gan danamcangyfrif ei allu i adnewyddu mewn ardaloedd sych a’i wydnwch yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.”
“Gall dealltwriaeth o’r broses ailgyflenwi lywio strategaethau i wella cyflenwadau o ddŵr daear. Mewn ardaloedd sych, lle mai adnoddau dŵr daear yw’r unig ffynhonnell barhaol o ddŵr croyw yn aml, gall y fath strategaethau fanteisio ar natur ragweladwy glawiadau trwm a digwyddiadau gorlifo sy’n gallu cynhyrchu dŵr daear,” ychwanegodd Dr Cuthbert.
Mae’r ymchwil hon, a gefnogir gan gynghorau ymchwil y DU (NERC, ESRC, EPSRC), yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) a’r Gymdeithas Frenhinol, hefyd yn dangos bod glawiadau trwm a digwyddiadau gorlifo sy’n ailgyflenwi dŵr daear yn aml yn gysylltiedig â ffenomenau sy’n dibynnu ar amrywioldeb hinsoddol, fel El Niño a La Niña.
Meddai’r Athro Richard Taylor (Daearyddiaeth UCL), cyd-arweinydd ar yr astudiaeth: “Mae dŵr daear yn cynnig llwybr posibl at gynnal cynnydd mewn defnydd o ddŵr daear, sydd ei angen i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy 2 (dim newyn) a 6 (dŵr diogel i bawb).”
“Mae ein hastudiaeth yn datgelu, am y tro cyntaf, sut mae’r hinsawdd yn chwarae rhan bwysig mewn rheoli’r broses sy’n ailgyflenwi dŵr daear. Mae’r ddealltwriaeth well hon yn hollbwysig i lunio rhagolygon dibynadwy o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a strategaethau i ymaddasu.”