Cydnabyddiaeth genedlaethol i ddarlithwyr ‘rhagorol’ o Gaerdydd
5 Awst 2019
Mae dau ddarlithydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad rhagorol at addysg myfyrwyr drwy ennill cymrodoriaeth ar gyfer cynllun addysgu cenedlaethol o fri.
Mae’r darlithydd mathemateg Dr Robert Wilson a’r darlithydd ffiseg Dr Richard Lewis ill dau wedi cael dyfarniad o Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NFT) gan Advance HE.
Mae uchafswm o 55 o unigolyn yn sector addysg uwch y DU yn cael y wobr bob blwyddyn, gan adlewyrchu’r urddas a’r gydnabyddiaeth sydd i’r cymrodoriaethau hyn, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae Cynllun y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol yn dathlu ac yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith ragorol ar ddeilliannau myfyrwyr a’r proffesiwn addysgu mewn addysg uwch.
Bydd enillwyr y wobr yn ymuno â chymuned genedlaethol o dros 800 o weithwyr proffesiynol tebyg eu meddylfryd sy’n angerddol dros ragoriaeth addysgu, a chânt y cyfle i gydweithio ar draws ffiniau a disgyblaethau yma yn y DU ac ar draws gweddill y byd.
Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yw Dr Richard Lewis.
Mae Richard wedi arloesi gyda chwricwlwm ôl-raddedig arobryn sy’n grymuso myfyrwyr fel ymchwilwyr ac ar hyn o bryd, mae’n cydweithio â sawl un o sefydliadau addysg uwch y DU i ddatblygu labordai a reolir o bell er mwyn ehangu ymgysylltiad â myfyrwyr gradd Meistr a addysgir, a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr.
Gan wneud sylw ar y Gymrodoriaeth, meddai: “Mae gweithio gyda fy myfyrwyr MSc yn brofiad amrywiol, heriol a gwerth chweil.
Wir, rwy’n teimlo mai braint yw gallu eu cefnogi i ddatblygu’n academaidd ac yn broffesiynol, wrth iddynt groesi’r bont rhwng bod yn fyfyrwyr israddedig i wyddonwyr go iawn. Anrhydedd aruthrol yw cael cydnabyddiaeth drwy Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol am ragoriaeth ac arloesedd mewn addysg gradd Meistr a addysgir.”
Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg a chyn-Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol yw Dr Robert Wilson. Hefyd, fe oedd cyn-Ddeon Arloesedd Addysg yn y Brifysgol.
Mae Dr Wilson yn eiriolwr angerddol dros ddulliau dysgu gweithredol mewn addysg fathemategol, ac yn herio myfyrwyr i ddadbacio eu camsyniadau a dysgu drwy ymchwilio a chydweithio â’u cyfoedion.
Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i’r berthynas rhwng meddylfryd, agwedd a sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â mathemateg lefel brifysgol.
Gan wneud sylw ar y Gymrodoriaeth, meddai: “Rwyf wrth fy modd i Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gael ei dyfarnu i mi. Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, rwyf wedi cael cyfleoedd gwych i weithio gyda myfyrwyr a chydweithwyr o ledled y sefydliad, a’r sector ehangach, i hyrwyddo mentrau dysgu ac addysgu sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr.
Byddwn yn parhau i ddysgu a myfyrio ar y profiadau hyn fel y gallwn barhau i gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial ym myd addysg uwch a thu hwnt.”
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Rhag Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “Llongyfarchiadau cynnes iawn i Richard a Rob am gyflawniad rhagorol. Mae’r ddau’n athrawon hynod ymroddedig ac ysbrydoledig. Mae eu hymdrechion yn cynrychioli ein cenhadaeth i gynnig cyfleoedd dysgu heriol ac ysgogol i fyfyrwyr yn unol ag anghenion cyflogwyr.”