Ymchwil newydd yn cynnig esboniad pam mae babanod sy’n cael eu geni yn ystod y gaeaf yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau iechyd meddwl
2 Awst 2019
Mae lefel hormon straen cortisol yn uwch ymhlith menywod sy'n rhoi genedigaeth yn yr hydref a'r gaeaf o gymharu â’r rhai sy'n rhoi genedigaeth yn y gwanwyn neu'r haf, yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gallai'r canfyddiadau newydd esbonio pam mae anhwylderau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl a gafodd eu geni yn ystod y gaeaf.
Esboniodd yr Athro Ros John, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Er bod lefelau cortisol mamol yn cynyddu'n naturiol yn ystod beichiogrwydd, mae ein data'n dangos bod babanod yr hydref a'r gaeaf yn agored i lefelau arbennig o uchel ychydig cyn iddynt gael eu geni. Ar gyfartaledd, roedd gan fenywod a oedd yn rhoi genedigaeth yn yr hydref/gaeaf 20% yn fwy o gortisol yn eu poer ychydig cyn y geni na'r rhai a roddodd enedigaeth yn y gwanwyn/haf.”
"Gan fod lefelau uwch o cortisol mewn menywod beichiog wedi'u cysylltu yn y gorffennol â pherygl uwch o blant yn datblygu anhwylderau iechyd meddwl, gallai'r canfyddiadau newydd esbonio pam mae'r anhwylderau hynny'n fwy cyffredin ymhlith pobl a gafodd eu geni yn ystod misoedd y gaeaf. Serch hynny, nid ydynt yn esbonio'r rhesymau pam mae gan fenywod sy'n rhoi genedigaeth yn y gaeaf neu'r hydref y lefelau uwch hynny o cortisol."
Gwyddwn fod newidiadau tymhorol o ran hwyl ac ymddygiad yn gyffredin ymysg y boblogaeth, ond rydym yn gwybod llawer llai am effaith gwahanol adegau o’r flwyddyn ar hwyliau yn ystod beichiogrwydd. Gan ddefnyddio data o astudiaeth hydredol 'Grown in Wales,' archwiliodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd y berthynas rhwng y tymhorau a chrynodebau cortisol yn y poer, symptomau iselder a gorbryder, pwysau geni babanod a phwysau'r brych ymhlith menywod beichiog yn byw yn ne Cymru.
Er i’r tîm ddod o hyd i gysylltiad rhwng y tymhorau a chrynodebau cortisol yn y poer ar ddiwedd cyfnod beichiogrwydd, ni ddaethant o hyd i gysylltiad rhwng yr adeg o'r flwyddyn a symptomau iechyd meddwl y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod beichiogrwydd, pwysau geni babanod neu bwysau'r brych.
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 316 o fenywod. Casglwyd data yn yr apwyntiad cyn llawdriniaeth ELCS sydd wedi’i threfnu ymlaen llaw, ac yn syth ar ôl genedigaeth, trwy holiadur helaeth a nodiadau a gofnodwyd gan y fydwraig ymchwil. Casglwyd cortisol o samplau poer mamau.
Cyhoeddwyd y papur 'Seasonal variation in salivary cortisol but not symptoms of depression and trait anxiety in pregnant women undergoing an elective caesarean section' yn Psychoneuroendocrinology.