Môr-ladron Gwyddoniaeth; Digwyddiad Gwyddoniaeth Rhyngweithiol
1 Awst 2019
Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd â'u hymchwil i Fenter Caerdydd yn yr Aes - Canol Dinas Caerdydd.
Mae cyhyrau'n ymateb i ymarfer corff drwy fynd yn fwy ac yn gryfach, ond beth am esgyrn? I ateb y cwestiwn hwn, mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi creu ystafell ddianc gyfoes sydd wedi'i defnyddio i ddatblygu gêm feddyliol a chorfforol sy'n seiliedig ar antur er mwyn helpu cyfranogwyr i gael hyd i'r ateb.
Ariannwyd y gweithgaredd ymgysylltu cyhoeddus gan Ymddiriedolaeth Wellcome ym Mhrifysgol Caerdydd a chaiff ei gynnal yn:
Menter Caerdydd
Yr Hen Lyfrgell
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1BH
Cynhelir y digwyddiad yn ystafell gyfarfod y llawr 1af yng Nghanol Dinas Caerdydd ym mis Awst (3 a 10) a Medi (7 ac 14). Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:30am a 3:30pm.
Y nod yw addysgu’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw i roi gwybodaeth am ddylanwad ymarfer corff ar iechyd esgyrn a sut mae’n gallu atal esgyrn rhag gwanhau, drwy weithgaredd ystafell ddianc ryngweithiol ar thema môr-ladron.
Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Mae'n addas i blant 12+ oed, ond bydd y wybodaeth o ddiddordeb i bobl iau a hŷn sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth ac sy'n awyddus i ddarganfod pethau newydd.
Mae'r ystafell ddianc ar thema môr-ladron wedi'i dylunio gydag elfen ddigidol, yn defnyddio codau QR fel modd o addysgu ymwelwyr am fioleg esgyrn.
Mae codau QR yn godau bar y gellir eu sganio, ac yn ddolen at gyfrwng digidol fel cerddoriaeth, fideo neu gemau. Drwy ddefnyddio map trysor a dalen ddadgodio, mae chwaraewyr yn llywio eu ffordd drwy'r ystafell ddianc gan ddod o hyd i atebion sydd eu hangen i ddatgloi cist drysor er mwyn dianc.
Mae’r ddalen ddadgodio'n cynnwys cwestiynau ynghylch bioleg esgyrn, ac mae'r atebion ar ffurf codau QR y mae'n rhaid i'r chwaraewyr eu sganio â llechen.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a manylion am gyda phwy y dylech gysylltu ewch i wefan y digwyddiad.