Sheen yn cwrdd â ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n graddio
1 Awst 2019
Mae’r actor Michael Sheen wedi llongyfarch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn bersonol am raddio o ysgol haf arloesol.
Mae’r rhaglen ASPIRE chwe wythnos o hyd - a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd a First Campus - yn cefnogi ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr gorfodol sydd am astudio ar lefel addysg uwch y DU.
Mae myfyrwyr yn cael dosbarthiadau Saesneg dwys, cyrsiau rhagflas academaidd, profiadau sy’n cynyddu hyder a chyngor ar sut i wneud cais am le mewn prifysgol.
Fe wnaeth graddedigion yr ysgol haf gwrdd â Sheen yng Nghwpan Pêl-droed Digartref y Byd ym Mharc Bute, Caerdydd, cyn eu seremoni raddio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Hamza Abdallah Ssewankambo, athro o Wganda a ddaeth i Gymru yn 2018 wrth Sheen bod y gefnogaeth i’r ysgol haf wedi gwneud byd o wahaniaeth i’w fywyd.
“Roeddwn i wedi bod mewn sefyllfa anodd dros ben ac roedd gen i’r ofn yna o hyd pan ddes i yma gyntaf,” meddai.
“Siaradais â fy ngweithiwr cymdeithasol ac fe wnaeth fy nghyflwyno i Brifysgol Caerdydd a dechreuais y cyrsiau haf. Dechreuais gyda’r cwrs Saesneg ac fe wnaethant fy nghyflwyno i gyrsiau eraill.”
Ychwanegodd Hamza, sydd wedi bod yn gwirfoddoli yng Nghwpan Pêl-droed Digartref y Byd ac sy’n ffrindiau â rhai o’r chwaraewyr yng ngharfan Cymru: “Mae gen i gymaint o ffrindiau erbyn hyn a dwi wedi dysgu gymaint ac wedi ehangu fy mhrofiad.
“Dwi’n gallu sefyll o flaen Michael Sheen a siarad am y peth fel hyn!”
Fe dreuliodd Ilham Mahdi, o Irac, nifer o flynyddoedd yn Llundain ond mae hi’n teimlo fel ei bod wedi dechrau ffynnu ers symud i Gymru.
“Mae’n lle da iawn i fod. Pan glywais am gyrsiau Prifysgol Caerdydd roeddwn i eisiau cymryd rhan,” dywedodd.
“Rydw i’n mwynhau’r cyrsiau Saesneg ac fe wnaeth y cyrsiau cyfieithu ar y pryd agor fy llygaid. Roedd hynny’n wych. A hefyd y cwrs am sut i ddechrau eich busnes eich hun.”
“Does yna ddim un cwnselydd Arabaidd felly penderfynais mai fi fyddai’r cyntaf yng Nghymru a byddwn yn dechrau fy musnes fy hun.”
Fe wnaeth Sheen ganmol y rhaglen ASPIRE a siaradodd â graddedigion 2019.
Dywedodd wrthynt: “Mae gwybod eich bod chi nawr yn gallu helpu cymaint o bobl eraill yn golygu cymaint i mi.
“Rydych chi’n gwybod sut brofiad yw bod yn y sefyllfa honno a bydd hynny nawr yn dylanwadu ar fywydau eraill.”
Gorfodir llawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adael gyrfaoedd llwyddiannus mewn amgylchiadau torcalonnus.
Mae’r rhai sy’n ceisio mynd i brifysgolion y DU yn wynebu rhwystrau gan gynnwys cyfyngiadau ariannol, diffyg cydnabyddiaeth o’u cymwysterau a diffyg cymorth i wella eu Saesneg.
Mae rhaglen ysgol haf ASPIRE wedi’i llunio i helpu i oresgyn llawer o’r rhwystrau hyn.
Meddai Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd: “Mae’r rhaglen hon yn gweithio ar nifer o lefelau, o roi hwb i hyder myfyrwyr a’u sgiliau yn y Saesneg, i gynnig profiadau academaidd ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc a gwybodaeth ymarferol ynghylch cyrsiau a chael mynediad i brifysgol.
“Gall prifysgolion chwarae rhan allweddol wrth helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adeiladu bywydau newydd i’w hunain mewn amgylchiadau heriol.”
Yn y gorffennol, mae Sheen, yr actor a’r ymgyrchydd o Gymru, wedi llongyfarch graddedigion yr ysgol haf i ffoaduriaid drwy negeseuon fideo. Eleni mae wedi ymgymryd â rôl ymarferol wrth drefnu Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yng Nghaerdydd.
Bu’n gyfrifol am arwain y cais i gynnal y digwyddiad sydd wedi’i lwyfannu gan Sefydliad Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd, ac sy’n cael ei gefnogi gan elusen cynhwysiant cymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru.
Mae dros 500 o chwaraewyr sy’n cynrychioli dros 50 o wledydd yn chwarae yn yr ŵyl bêl-droed. Nod y digwyddiad yw ceisio helpu roi dyfodol gwell i bobl ddigartref sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol.
Cynhelir y gystadleuaeth tan ddydd Sadwrn 3 Awst.