Golwg am geisio ‘cau’r diffyg democrataidd’
31 Gorffennaf 2019
Mae prif weithredwr newydd Golwg yn dweud y gall y grŵp newyddion Cymraeg helpu i “gau'r diffyg democrataidd” yng Nghymru.
Dyma farn Siân Powell cyn y drafodaeth y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei chynnal ar faes yr Eisteddfod ynghylch dyfodol newyddiaduraeth brint yng Nghymru. Bydd Siân yn dechrau ar ei swydd newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Meddai: “Dwi’n edrych ymlaen i ymuno â’r panel hwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol i drafod dyfodol newyddiaduraeth a print yng Nghymru. Mae cylchgrawn Golwg a gwasanaeth golwg360 yn enghraifft o’r cydweithio posib rhwng print a newyddion arlein.
“Mae’r dyfodol yn ddisglair i brand Golwg ac mae cyfle arbennig i ni wrth gydweithio’n agos gyda gwasanaeth golwg360 i ehangu ar y straeon sy’n cael eu torri arlein er mwyn cynnig dadansoddi, scriwtini a dehongliad pellach mewn cylchgrawn wythnosol.”
Yn ei rôl newydd bydd Siân yn goruchwylio ac yn datblygu nifer o gyhoeddiadau yn Golwg gan gynnwys y cylchgrawn newyddion a materion cyfoes ei hun, gwefan Golwg 360 a menter gwefannau cymunedol Bro 360.
Mae hi'n credu bod newyddiaduraeth gref a chynnwys amlgyfrwng Golwg yn ei roi mewn sefyllfa ddelfrydol i graffu'n drylwyr ar sefydliadau yng Nghymru.
Nid oes llawer o gyfleoedd i scriwtineiddio’n ddyfnach ar straeon newyddion yng Nghymru ac yn Gymraeg, ond mae Cylchgrawn Golwg mewn lle neilltuol i allu gwneud ac i gyfrannu tuag at cau’r diffyg democrataidd.” meddai.
Mae Siân, oedd yn arfer bod yn fyfyriwr ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o banel o arbenigwyr yn y diwydiant sy'n cymryd rhan yn nhrafodaeth flynyddol y Brifysgol am y cyfryngau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd digwyddiad yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant - o'r enw Ydy’r byd ar ben i brint yng Nghymru? - yn cael ei gynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener 9 Awst am 14:00.
Mae cyfranwyr eraill yn cynnwys Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru, Emma Meese, cyfarwyddwr newyddiaduraeth gymunedol Prifysgol Caerdydd, a Dion Jones, Golygydd Gweithredol y Daily Post.
Meddai Rhuanedd: “Mewn byd sy’n llawn sŵn, mae‘r angen yn fwy nag erioed o’r blaen am wasanaethau newyddion, sy’n glir a chadarn eu newyddiaduraeth, er mwyn ein galluogi i ddeall y newidiadau o’n cwmpas ac i graffu ar ein sefydliadau a llywodraethau. Dyna yw’r her ac mae’n bwysig fod yna amryw o lwyfannau newyddiadurol sy’n gwneud hynny yng Nghymru.
“Dyna rydyn ni’n gwneud yn ddyddiol ar Radio Cymru, Cymru Fyw ac ar draws y BBC gyda thîm o newyddiadurwyr yn gweithio yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafod y byd newyddiadurol a’r newidiadau a’r cyfleoedd sy’n ei wynebu gyda’r panelwyr eraill a diolch i Brifysgol Caerdydd am roi llwyfan i’r drafodaeth honno.”
Meddai Dion: “Mae newyddiaduraeth leol yn allweddol i’n llwyddiant - sef cynnig y cynnwys iawn, diddorol i’n cynulleidfa sut a phryd mae ei eisiau arnynt.
“Mae tirwedd y cyfryngau’n newid yn gyflym, ond mae’r gallu i adrodd y newyddion pwysig a diweddaraf wrth iddynt ddigwydd yn greiddiol i’n hathroniaeth ni.”
Bydd y drafodaeth flynyddol hon am y cyfryngau, sydd bellach yn elfen boblogaidd o raglen yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys trafodaeth fywiog a chyfle i’r gynulleidfa holi ffigurau amlwg yn y diwydiant.
Bydd panelwyr yn ystyried sut y gall newyddiaduraeth brint yng Nghymru oroesi yn y tymor hir gan fod mwy a mwy o gynnwys ar gael ar-lein.
A beth yw'r canlyniadau i ddirywiad newyddion print traddodiadol i gymunedau Cymru a democratiaeth leol?
Ond mae llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol hefyd o ystyried y twf mewn newyddiaduraeth gymunedol a sut y gallai ddatblygu.
Mae Emma Meese wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu cymunedau i greu eu gwasanaethau newyddion hyperleol eu hunain, gan gynnwys Pobl y Fenni, y gwasanaeth Cymraeg cyntaf yn y Fenni yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn 2016.
Meddai Emma, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gweld bod galw mawr am newyddion ar lefel hynod leol yng Nghymru gan fod y sector newyddion lleol yn parhau i dyfu a chryfhau.
“Er ein bod yn byw mewn oes ddigidol, rydym yn gweld nifer o gyhoeddiadau yn troi at brint, gan fod y model hysbysebu traddodiadol yn parhau i weithio ar lefel gymunedol. Erbyn hyn ceir y posibilrwydd y bydd hyd yn oed rhagor o gyhoeddiadau yng Nghymru yn cynhyrchu fersiynau print o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y sector.”