Arloesedd mewn Busnes
10 Gorffennaf 2019
Mae partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Qioptiq, cwmni ffotoneg blaengar yng ngogledd Cymru, wedi ennill anrhydedd Arloesedd mewn Busnes yn Seremoni Wobrwyo Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni.
Yn y prosiect ar y cyd, rhannodd yr Athrawon Aris Syntetos a Mohamed Naim a Dr Thanos Goltsos, arbenigwr mewn rhagolygu rhestri eiddo ‘effeithlon’, eu harbenigedd i ddatblygu pecyn offer i ragolygu stocrestrau ‘ailweithgynhyrchu’.
Mae Qioptig, cwmni o Lanelwy, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion ffotoneg yn ogystal ag atebion ar gyfer cwsmeriaid awyrofod a sectorau amddiffyn cenedlaethol a rhyngwladol.
Diolch i ymdrechion y tîm academaidd sy’n seiliedig ar ddiwydiant, maent wedi creu model busnes o'r radd flaenaf er mwyn hwyluso cadwyni cyflenwi mwy effeithlon, a gostwng costau drwy reoli stocrestrau yn well.
Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon gydag Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'n atgyfnerthu ein henw da hirsefydlog fel cwmni arloesol gydag agwedd ymarferol at arloesedd...”
Ychwanegodd yr Athro Syntetos: “Mae’n deyrnged i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith, o ymchwil eithriadol Thanos fel aelod cyswllt y bartneriaeth – gan ddod â manteision economaidd sylweddol i un o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru – i oruchwyliaeth ymroddedig yr Athro Naim...”
Mae gwaith ymchwil ar stocrestrau mwy effeithlon a chynaliadwyedd amgylcheddol yn alinio'n agos â strategaeth Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd, gan adlewyrchu diddordeb cynyddol Llywodraethau Cymru a'r DU yn yr economi gylchol, cynaliadwyedd ac ad-weithgynhyrchu.
Trefnwyd y Gwobrau, a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.