Ewch i’r prif gynnwys

Cemegion gwenwynig yn rhwystro afonydd Prydain rhag adfer

31 Gorffennaf 2019

River Taff

Gallai cemegion gwenwynig o ddegawdau blaenorol fod yn rhwystro afonydd trefol Prydain rhag adfer, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Caer-wysg a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg.

Yn ystod y 1970au, cafodd dros 70% o afonydd cymoedd de Cymru eu dosbarthu’n rhai hynod lygredig, oherwydd cyfuniad o ddull gwael o drin carthion, gwastraff pyllau glo ac arllwysiadau diwydiannol.  Ers hynny, mae diwydiant wedi dirywio, mwyngloddio dwfn wedi dirwyn i ben a dulliau trin carthion wedi gwella i’r graddau bod rhywogaethau dŵr glân fel eogiaid a dyfrgwn wedi dychwelyd i afonydd fel afon Taf.  

Fodd bynnag, mae gan afonydd Cymru gadwyni bwyd sydd wedi’u difrodi a llai o rywogaethau o infertebratau, o’u cymharu ag afonydd gwledig o hyd. Yn ôl yr ymchwilwyr, efallai mai crynodiadau uchel o gyn-lygryddion diwydiannol, fel Deuffenyl Polyclorinedig (PCB) a chemegion gwrth-fflam (PBDEs) sy’n parhau yn yr afonydd hyn er iddynt gael eu gwahardd yn raddol, sydd wrth wraidd y broblem.

Esboniodd Dr Fred Windsor, myfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Er gwaethaf y llwyddiant mawr o ran rheoli llygredd carthion yn afonydd de Cymru dros y tri degawd diwethaf, ymddengys fod rhywbeth yn rhwystro eu hadferiad biolegol. Mae ein hymchwiliadau’n dangos y gallai llygryddion parhaus fod yn gyfrifol am hyn, oherwydd fe’u ceir yn eang o hyd mewn infertebratau, yn enwedig mewn amgylcheddau afonol trefi.”

Ychwanegodd yr Athro Charles Tyler o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caer-wysg: “Mae effeithiau amlwg yr hyn yr ydym yn ei alw’n llygryddion ‘gwaddol’ – sef PCBs, deunyddiau gwrth-fflam, plaleiddiaid organoclorin a chemegion organig cymhleth, sydd bellach wedi’u gwahardd rhag cael eu cynhyrchu a’u defnyddio gan fwyaf – yn ein hatgoffa unwaith eto ein bod yn parhau i fyw gyda phroblemau a achosir gan gemegion gwenwynig o ddegawdau’r gorffennol. Fe geir y cemegion hyn yn helaeth mewn afonydd, llynnoedd a moroedd Prydain a thu hwnt, ac maent yn effeithio ar amrywiaeth eang o anifeiliaid o hyd.”

Casglodd yr Athro Steve Ormerod, o Sefydliad Ymchwil Dŵr ac Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: “Mae ecosystemau afonol trefi ym Mhrydain wedi bod ar gynnydd o ran adfer ers o leiaf 1990, ond mae llawer i’w wneud o hyd cyn y gallwn ddweud eu bod wedi adfer yn llawn rhag dros ganrif o ddirywio diwydiannol a threfol.  

“Mae’r pwysau ecolegol ar ein hafonydd yn dod o sawl cyfeiriad, o orlifoedd carthion cyfunedig i addasiadau peiriannol, ac mae’r ymchwil hon yn ychwanegu dimensiwn newydd at ddeall pam nad ydynt ar eu gorau eto.

“Mae dirywiad araf rhai o’r llygryddion yn golygu y gallai fod angen aros amser hir cyn bydd y cemegion hyn yn diflannu. Efallai mai un o’r gwersi yw y dylem osgoi difrodi’r ecosystem yn y lle cyntaf yn hytrach na cheisio datrys problemau ar ôl iddynt ddigwydd.”

Mae’r papur ‘Persistent contaminants as potential constraints on the recovery of urban river food webs from gross pollution’ wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn rhyngwladol, Water Research.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.