Myfyrwyr a staff yn cymryd rhan wrth lansio Gêmau Trawsblaniadau Prydain
24 Gorffennaf 2019
Ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2019, bu myfyrwyr a staff nyrsio o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan adeg lansio Gêmau Trawsblaniadau Prydain yn Friar’s Walk, Casnewydd.
Nod y Gêmau, a drefnwyd ar ran Transplant Sport, yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyfrannu organau, ac annog derbynyddion trawsblaniad i fyw bywyd egnïol - ochr yn ochr â gwerthfawrogi a chofio cyfranwyr a’u teuluoedd.
Bu’r myfyrwyr a’r staff yn canu yng Nghôr Believe Organ Donation Support (ODS), ochr yn ochr â phobl y mae rhoi organau wedi effeithio ar eu bywydau.
Mae Believe ODS yn elusen a sefydlwyd gyda’r nod o addysgu pobl ynghylch rhoi organau, a chefnogi’r bobl dan sylw. Sefydlwyd yr elusen gan Anna-Louise Bates er cof am ei diweddar ŵr, Stuart, a’i mab, Fraser, yr aeth eu rhoddion o organau a meinwe ymlaen i achub bywydau lawer.
Cafodd y fersiwn o Calon Lân a gyflwynwyd dderbyniad gwresog gan y rhai oedd yn bresennol, a chafwyd canmoliaeth gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Richard Hellyar, Darlithydd Nyrsio Oedolion yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, "Mae angen trawsblaniad organ ar ryw 6,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig, a gwaetha’r modd, mae rhywun yn marw bob dydd wrth ddisgwyl".
"Wrth i’n myfyrwyr ymgysylltu â Believe a Gêmau Trawsblaniadau Prydain, maen nhw’n helpu i roi’r gair ar led ynghylch pwysigrwydd trafod eich dymuniadau gyda’ch anwyliaid a chyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth ac addysg ynghylch rhoi organau".