Pennaeth newydd i’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Caerdydd
30 Hydref 2015
Penodi'r Athro Heather Waterman yn bennaeth Ysgol sydd ymhlith y pump orau yn y DU
Mae ymchwilydd nyrsio llygaid rhyngwladol ei bri wedi cael ei phenodi i
arwain Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro Heather Waterman yn ymuno â'r Ysgol o Brifysgol Manceinion, a bydd
yn cymryd lle'r Athro Sheila Hunt fel pennaeth yr Ysgol. Bydd yn gweithio i
adeiladu ar enw da'r Ysgol o ran rhagoriaeth addysgu ac ymchwil iechyd
arloesol.
Yn ddiweddar, ar ôl cael ei asesu gan banel a gefnogwyd gan y llywodraeth,
nodwyd bod gwaith ymchwil Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ymhlith y 5 ysgol orau
o'i math yn y DU. Dywedwyd bod 90 y cant o'i gwaith ymchwil 'o'r radd flaenaf'.
Yn ogystal, yn ôl y Complete University Guide diweddaraf, cwrs
ffisiotherapi'r Ysgol hon yw'r gorau yn y DU.
Mae gan yr Athro Waterman dros 25 mlynedd o brofiad mewn gwaith ymchwil i'r
gwyddorau gofal iechyd, a bydd yn dod ag arbenigedd i'r Ysgol ym maes problemau
meddygol a llawfeddygol sy'n ymwneud â'r llygaid. Mae hi wedi canolbwyntio'n
benodol ar glawcoma – cyflwr sy'n amharu ar y golwg, sy'n effeithio ar tua
hanner miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Waterman: "Rwy'n llawn
cyffro wrth feddwl am y cyfle i arwain Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae'n
anrhydedd mawr. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grŵp Russell sydd â
thraddodiadau rhagorol o ran addysgu ac ymchwil.
"Fy ngweledigaeth ar gyfer yr Ysgol yw adeiladu ar ei chryfderau
presennol; ei henw da o ran safonau addysg uchel, sgôr anhygoel o uchel ar
gyfer ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, a'i maint – gall
Ysgol mor fawr gael llawer o ddylanwad. Yn anad dim, wrth gwrs,
cryfder pennaf yr Ysgol yw ei phobl; academyddion, staff y gwasanaethau
proffesiynol a myfyrwyr. Ni fyddai'r Ysgol yr un fath hebddynt.
"Fy nod fel pennaeth yr Ysgol yw sicrhau ein bod yn parhau i roi profiad
rhagorol i'r myfyrwyr. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at weithwyr gofal iechyd
proffesiynol sy'n ofalgar, yn gymwys, yn foesegol ymwybodol ac yn wybodus, a
nhw fydd arweinwyr eu maes yn y dyfodol. Rwyf hefyd am wneud yn siŵr ein bod yn
cynnal gwaith ymchwil o'r radd flaenaf, sy'n arwain at wybodaeth a gaiff
effaith uniongyrchol ar les pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a thu hwnt."
Croesawyd y penodiad newydd gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol
Caerdydd: "Mae'r Athro Waterman yn benodiad allweddol ar gyfer y Brifysgol
wrth iddi ddatblygu Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Rwy'n hyderus y bydd ei
phrofiad a'i harbenigedd yn hwb mawr i'r Ysgol, ac yn hwb i gyflawni nodau
strategol cyffredinol y Brifysgol."
Mae prosiect presennol yr Athro Waterman - sef prosiect y bydd yn ei
drosglwyddo o Ysgol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwaith Cymdeithasol Prifysgol
Manceinion – yn canolbwyntio ar safbwyntiau cleifion sy'n byw gyda dementia a
glawcoma.
Cymhwysodd fel nyrs o Ysbyty Brenhinol Manceinion ym 1983. Ar ôl ennill ei
gradd o Kings College, Llundain, ymunodd â Phrifysgol Manceinion, lle enillodd
radd PhD ym 1994. Roedd yn Athro Nyrsio ac Offthalmoleg yn y Brifysgol am
oddeutu 13 blynedd.
Mae ganddi hefyd enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil i hyrwyddo
hunanofal cleifion sydd â chyflyrau hirdymor, yn enwedig y cyflyrau hynny sy'n
cynnwys colli golwg.