Ewch i’r prif gynnwys

Blas ar fywyd yn y brifysgol i ddysgwyr ifanc

29 Gorffennaf 2019

Sutton Trust young people

Mae 75 o'r rheini yn eu harddegau o gefndiroedd incwm isel a chanolig wedi profi bywyd fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn ysgolion haf rhad ac am ddim sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Sutton.

Aeth y bobl ifanc i seremoni raddio yn y Brifysgol yn dilyn wythnos o ddarlithoedd, gweithdai a gweithgareddau cymdeithasol.

Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnig y rhaglen ar ôl creu lleoedd newydd yn yr ysgol haf meddygaeth i roi blas i gyfranogwyr ar fywyd fel myfyriwr israddedig.

Nod ysgolion haf Ymddiriedolaeth Sutton yn y DU yw gwella mynediad i'r prifysgolion gorau drwy gynnig i gyfranogwyr y wybodaeth a'r mewnwelediad ar gyfer creu ceisiadau o safon uchel, yn ogystal â rhoi hwb i'w dyheadau.

Roedd y rhai a gymerodd ran yn canmol y profiad ac yn dweud ei fod o fudd iddynt.

Dywedodd Ellie: “Mae wedi bod yn hollol wych – Rwy'n teimlo fy mod i wedi dysgu cymaint am fywyd prifysgol a'r ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl anhygoel ac rwy’n teimlo'n gyffrous am fynd i’r brifysgol.”

Dywedodd Lena: "Mae'r ysgol haf wedi bod yn rhyngweithiol iawn. Rydw i wedi dysgu cymaint o sgiliau clinigol a chymdeithasol ac rwy'n teimlo'n fwy parod o lawer i wneud cais i astudio meddygaeth.”

Meddai Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddysgwyr Blwyddyn 12 - y rhai cyntaf o'u teuluoedd i fynd ymlaen i addysg uwch mewn llawer o achosion - i gael cipolwg go iawn ar fywyd mewn prifysgol o’r radd flaenaf.

“Cenhadaeth ddinesig Prifysgol Caerdydd yw cefnogi ysgolion, colegau a phartneriaid addysgol eraill i helpu i hybu cyrhaeddiad addysgol ac mae ein cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Sutton yn rhan fawr o'r gwaith hwnnw.”

Mae Ymddiriedolaeth Sutton bellach yn cydweithio â 13 o brifysgolion sy'n bartneriaid ar draws y DU, er mwyn cynnal yr ysgolion haf.

Yn 2019, bydd 2,300 o fyfyrwyr o ysgolion gwladol ledled y wlad yn cymryd rhan mewn cyrsiau sy'n benodol o ran pwnc.

Meddai James Turner, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sutton: “Mae ein hysgolion haf yn rhoi’r cyfle i filoedd o bobl ifanc o bob rhan o'r DU newid eu bywydau a gwneud y penderfyniadau sy’n iawn iddyn nhw.

“Pleser o'r mwyaf yw bod mewn partneriaeth â Chaerdydd am y tro cyntaf eleni. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau o'r radd flaenaf yr ydym am i’n myfyrwyr eu profi dros eu hunain.”

Mae Ysgolion Haf Ymddiriedolaeth Sutton yn y DU yn agored i holl fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy'n mynd i, ac wedi mynd erioed i ysgol neu goleg gwladol yn y DU.

Yna ceir meini prawf ychwanegol, a po fwyaf ohonynt mae myfyrwyr yn eu bodloni, y mwyaf tebygol maen nhw o gael lle.

Mae meini prawf ychwanegol yn cynnwys bod y cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i brifysgol, wedi bod yn gymwys i gael prydiau ysgol yn rhad ac am ddim a chael 5 gradd A* – A yn TGAU.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cynnig hyblygrwydd a dewis yn ein rhaglenni, yn ogystal â datblygu llwybrau mynediad ychwanegol.