Diwrnod Agored ar gyfer cyrsiau rhan-amser i oedolion
11 Medi 2019
![Open Day 2019](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1540338/open-day-sep19.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Bydd ein Diwrnod Agored nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Medi.
12.00 - 14.00
neu
17.00 - 19.00
Addysg Barhaus a Phroffesiynol, 21-23 Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AG.
Croeso i raglen cyrsiau rhan-amser i oedolion Prifysgol Caerdydd. Rydym yn cynnig ystod eang o bynciau i'w hastudio ar amrywiaeth o lefelau, o ddechreuwyr pur i lefel uwch.
Mae ein Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am ein cyrsiau, llwybrau at raddau israddedig, opsiynau cyllido, a sut i gofrestru.
Does dim angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn, dim ond mynd yno ar y diwrnod.
Bydd y maes parcio Addysg ar agor ar gyfer ymwelwyr sy'n dod i'r sesiwn gyda'r nos.