Myfyriwr peirianneg Caerdydd yn ennill lle ar Silverstone
26 Gorffennaf 2019
Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei derbyn ar raglen peirianneg genedlaethol nodedig gyda'r nod o hybu gyrfaoedd a chyfleoedd i beirianwyr benywaidd.
Roedd Eva Roke, myfyriwr yn ei phedwaredd flwyddyn sy'n astudio yn yr Ysgol Peirianneg, yn un o dim ond 30 o bobl yn y DU i gael eu derbyn ar fenter STEMships Prifysgolion Santander.
Nod rhaglen gyntaf STEMships Prifysgolion Santander yw chwalu'r rhwystrau i fenywod sy'n ymuno â’r diwydiant peirianneg trwy roi’r offer, yr adnoddau a'r cyfleoedd sydd eu hangen i fyfyrwyr peirianneg uchelgeisiol lwyddo yn y diwydiant ar ôl y brifysgol.
Yn rhan o'r fenter, bydd Eva yn cychwyn ar raglen gefnogaeth dwy flynedd sy'n cynnig: ysgoloriaeth o £1,500; profiad tramor mewn sefydliad peirianneg blaenllaw; digwyddiadau rhwydweithio unigryw gydag arweinwyr benywaidd blaenllaw yn y diwydiant; aelodaeth o Gymdeithas Peirianneg y Menywod; a chynlluniau mentora ac interniaeth trwy rwydweithiau ehangach Santander.
Cafodd Eva y newyddion yn ystod digwyddiad arbennig yn Silverstone y penwythnos hwn, lle roedd Jenson Button, cyn Pencampwr y Byd F1, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel gyda'r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, ar bwnc menywod mewn peirianneg a sut i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent peirianneg benywaidd.
Yn ystod y drafodaeth, dywedodd Jenson y byddai cael gyrrwr benywaidd ym Mhencampwriaeth Fformiwla Un y Byd yn “chwyldroi” y gamp, ac y byddai menyw sy'n ymuno â'r grid ochr yn ochr â dynion yn ysbrydoli ton newydd o gefnogwyr rasio ac yn annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon modur.
Dywedodd Eva, wrth roi sylwadau ar gael ei derbyn i'r rhaglen: “Rwy'n ddiolchgar i Brifysgolion Santander am y cyfle hwn ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y rhaglen, i gwrdd â pheirianwyr benywaidd ifanc eraill yn ogystal â ffigurau amlwg yn y diwydiant. Gobeithiaf wneud defnydd llawn o'r llwyfan hwn i hybu'r gwaith rwy'n ei wneud, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc i ddilyn dysgu a gyrfaoedd ym maes STEM.”
Dywedodd yr Athro Karen Holford: “Er i adroddiad diweddar ddatgelu mai dim ond 12% o'r holl beirianwyr yn y DU sy'n fenywod, mewn gwirionedd mae yna gynnydd cadarnhaol iawn ymysg menywod ifanc – mae 26% o'n peirianwyr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn fenywod. Mae'n dal yn hanfodol ein bod yn parhau i hyrwyddo maes peirianneg ac yn dangos ei bod yn ddewis gyrfa gwych i bawb.
“Rydw i wrth fy modd bod Eva wedi cael ei derbyn ar y rhaglen STEMships. Mae hi'n fyfyriwr hynod dalentog a gweithgar ac rwy'n siŵr y bydd yn elwa'n fawr o'r cyfle cyffrous hwn.”
Dywedodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander yn y DU: “Rydym wrth ein bodd yn lansio ein STEMships unigryw i gefnogi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr benywaidd ledled y DU. Ar ôl gweithio'n agos gyda thimau o Formula Student ar draws ein prifysgolion partner, rydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu myfyrwyr peirianneg benywaidd wrth iddynt edrych ar yrfaoedd yn y diwydiant. Gobeithiwn y bydd y rhaglen yn eu cefnogi gyda'u huchelgeisiau gyrfaol.”