Kenneth Hamilton Plays Ronald Stevenson – Cyfrol 2
25 Gorffennaf 2019
Rhyddhawyd ail gyfrol Kenneth Hamilton Plays Ronald Stevenson yn ddiweddar gan recordiau Prima Facie, yn dilyn y ganmoliaeth ryngwladol anhygoel a gafodd Cyfrol 1.
Mae’r albwm newydd bellach wedi cyrraedd 50 Uchaf y Siart Glasurol
Cyhoeddwyd Cyfrol 1 yn 2016, a chafodd ganmoliaeth fyd-eang. Cafodd ei ddewis yn CD yr wythnos gan Klassik Heute yn yr Almaen. Cafodd ei ddisgrifio'n ‘recordiad hyfryd a pherfformiad ardderchog’ gan Jack Sullivan yn yr American Record Review.
Mae Cyfrol 2 yn cynnwys casgliad o ddarnau Celtaidd, gan gynnwys ‘Keening Song for a Makar', trawsgrifiadau llawn Purcell gan Stevenson, a’r recordiad cyntaf erioed o’r 'Threepenny Sonatina', sy’n seiliedig ar themâu o Opera Tair Ceiniog Kurt Weill.
Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Hamilton, cynfyfyriwr, cyfaill a chydweithiwr Stevenson, am y recordiad: "Rydw i wedi ymrwymo’n llwyr i gerddoriaeth Stevenson — mae ganddo bŵer go iawn, bywiogrwydd a gwreiddioldeb — ac rwy’n awyddus i’w wneud yn fwy hysbys. Rwy’n falch iawn bod gwrandawyr rhyngwladol yn medru uniaethu â’r gerddoriaeth nodweddiadol hon o’r Alban.”
Roedd recordiad blaenorol yr Athro Hamilton, Preludes to Chopin, hefyd wedi cyrraedd safle uchel yn y Siartiau Clasurol, gan ddenu sylw arbennig am wreiddioldeb rhagorol ei arddull perfformio.