Gwobr i Fusnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn
25 Gorffennaf 2019
Roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn un o naw sefydliad i gael eu cydnabod yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol BITC Cymru, ddydd Iau 27 Mehefin 2019.
Roedd yr Ysgol yn erbyn Paneli Inswleiddio Kingspan, oedd hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac ennill y Wobr ar gyfer Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn, y mae awydd mawr i’w hennill.
Mae cystadlu mawr am y gwobrau, sy’n cael eu hystyried yn safon aur cyflawniad busnes cyfrifol, ac maent yn cael eu marcio’n llym a’u sgorio’n annibynnol.
Dywedodd Yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd mor braf gweld cyflawniadau fy nghydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol Cymru...”
“Felly fe hoffwn estyn diolch a llongyfarchiadau i bawb yn yr Ysgol am eu rôl yn y gwaith parhaus hwn.”
Gwobrau o fri
Cafodd y naw cwmni buddugol ganmoliaeth a gwobrau am eu gweithgaredd busnes cyfrifol mewn cinio a gynhaliwyd yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Roedd dros 350 o gynrychiolwyr o fyd busnes, y Trydydd Sector a’r Llywodraeth yn bresennol yn y digwyddiad, oedd yng ngofal Lucy Owen o BBC Cymru Wales.
Dywedodd Matt Appleby, Cyfarwyddwr BITC Cymru: “Rydym ni’n falch bod ein gwobrau’n cael eu hystyried y safon aur ar gyfer busnesau cyfrifol. Mae cystadlu mawr amdanynt, dydyn nhw ddim yn hawdd eu hennill, ac o ganlyniad maent yn gamp werthfawr...”
Dyma oedd y naw categori o wobrau yn seremoni eleni: Busnes Mawr y flwyddyn, BBaCh y flwyddyn, yr Amgylchedd, Addysg, Ysbrydoli Doniau Ifanc, Llesiant yn y Gwaith, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Effaith Gwirfoddoli a Phartneriaeth Gymunedol.
Ymhlith yr enillwyr roedd Cymdeithas Tai’r Rhondda, a enillodd Wobr Llywodraeth Cymru ar gyfer BBaCh y Flwyddyn, Grŵp Pobl a hawliodd Wobr ACT Training am Ysbrydoli Doniau Ifanc, Heddlu De Cymru a enillodd Wobr Dŵr Cymru am Lesiant yn y Gwaith, Legal & General Wales a gafodd Wobr GE Aviation Wales am Amrywiaeth a Chynhwysiant, Bouygues UK a enillodd Wobr Addysg Grŵp Colegau CNPT, Grŵp Jehu a enillodd Wobr Wales & West Utilities am Bartneriaeth Gymunedol, Paneli Inswleiddio Kingspan, a enillodd Wobr Amgylcheddol Cymru, a Chymdeithas Adeiladu Principality, a enillodd y Wobr am Effaith Gwirfoddoli.
Hefyd cafodd wyth cwmni eu hailachredu am eu hymrwymiad parhaus i fusnes cyfrifol:
- Costain Ltd
- ACT Training
- Dŵr Mwynol Brecon Carreg
- Cymdeithas Adeiladu Principality
- Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf
- Trivallis
- IKEA Caerdydd
- Bwydydd Castell Howell
Ychwanegodd Matt Appleby: “Gydag uwch-gynhadledd amgylcheddol troi Gwastraff yn Gyfoeth yn cael lle amlwg yn y penawdau bythefnos yn ôl a’n gwobrau’n cael y fath ganmoliaeth yr wythnos hon, mae’n deg dweud bod gweithgarwch busnes cyfrifol, yn gwbl briodol, yn cael mwy a mwy o sylw.”