Pathways tutor is delighted to collect her PhD at the same ceremony as her graduating students
25 Gorffennaf 2019
Tiwtor Llwybrau wrth ei bodd yn casglu ei PhD yn yr un seremoni â’i myfyrwyr sy’n graddio
Mae Dr Sara Jones wedi bod yn addysgu modiwlau ar y Llwybrau at y Gwyddorau Cymdeithasol am bedair blynedd wrth gwblhau ei PhD. Mae Sara hefyd yn Gydlynydd Llwybrau yn y gwasanaeth Addysg Barhaus a Phroffesiynol, sy’n cynnig un ar ddeg o lwybrau at raddau israddedig i ddysgwyr sy’n oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd Sara wrth ei bodd pan gafodd wybod y byddai hi’n cael graddio yn yr un seremoni ochr yn ochr â dau o gynfyfyrwyr llwybr, Katarzyna Druzynska a Victoria Harris, oedd yn israddedigion yn graddio o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Dywedodd Sara:
“Prin yw’r adegau allweddol hynny mewn bywyd lle bydd y penderfyniad y byddwch chi’n ei wneud yn newid llwybr eich bywyd ac yn mynd â chi ar daith newydd sy’n frawychus ac yn gyffrous ar yr un pryd. Un o’r adegau allweddol hynny i mi oedd dewis dychwelyd i’r brifysgol ar ôl cael swydd yn addysgu mewn ysgol uwchradd, a dechrau’r broses o gwblhau MSc a PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.
O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, rydw i wedi datblygu o fod yn athrawes â diddordeb academaidd, i fod yn ymchwilydd cyflawn. Rwy’n falch o ddweud y byddaf yn graddio ochr yn ochr â dau o fy myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau israddedig yn llwyddiannus.”
Rheolwr recriwtio oedd Victoria Harris, cyn iddi ddechrau ar raglen Llwybr at Radd mewn Gwyddorau Cymdeithasol a daeth yn feichiog yn y flwyddyn gyntaf. Ar ôl llwyddo yn y flwyddyn gyntaf, aeth ymlaen i ddechrau gradd israddedig ‘Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol’ tair blynedd pan oedd ei merch Ffion ddim ond yn 10 wythnos oed.
“Gorffennais fy asesiadau terfynol ar y rhaglen llwybr ym mis Mehefin, rhoddais enedigaeth ym mis Gorffennaf a dechreuais fy ngradd ym mis Medi,” meddai.
“Rwy'n falch o fy nghyflawniad,” meddai'r fam 35 oed, o Dreganna, Caerdydd. “Mae wedi bod yn gryn her, ond yn werth chweil. Waeth pa mor anodd yw hi, pan fyddwch chi’n cael babi, mae'n rhoi hwb ychwanegol i chi i gyflawni eich nodau. Rwy’n edrych ymlaen at ddweud wrthi pan fydd hi'n hŷn, ‘Nes i fynd amdani’.”
Graddiodd Victoria gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr i gwblhau llwybr rhan-amser mewn Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Addysgir pob llwybr mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol. Mewn rhai achosion, ni fydd angen i chi fod eisoes wedi ennill cymwysterau, (cewch y manylion ar y dudalen llwybrau) a bydd digon o gymorth i ddatblygu eich sgiliau astudio.
Mae ein rhaglen llwybrau'n ddewis amgen i gymwysterau Safon Uwch a mynediad gan ei bod yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffyrdd tebyg i gyrsiau israddedig blwyddyn gyntaf. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael profiad ymarferol o astudio ar lefel gradd mewn amgylchedd addysg uwch bywiog.
Rydym yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt efallai wedi cael addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.