Dosbarth 2019
24 Gorffennaf 2019
Cynhaliodd Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ei seremoni a derbyniad Graddio ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019.
Cynhaliwyd y seremoni Raddio ffurfiol, ar gyfer myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a myfyrwyr PhD, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, a chynhaliwyd derbyniad yn ystod y bore ar lawnt Prif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd.
Roedd hwn yn gyfle i raddedigion ddathlu gyda'i ffrindiau, teulu, a'r gyfadran, a chodi gwydr i ddathlu eu llwyddiannau.
Eleni, cafodd 35 o fyfyrwyr israddedig Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, a chafodd 33 o fyfyrwyr ragoriaeth yn eu rhaglenni a addysgir i ôl-raddedigion.
Yn ystod y derbyniad, siaradodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne, am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan bob myfyriwr drwy gydol eu hastudiaethau. Siaradodd am sut roeddent wedi herio eu ffordd o feddwl, datblygu eu sgiliau beirniadol a chofleidio dadleuon rhesymegol a bywiog.
Fe wnaeth yr Athro Milbourne hefyd gydnabod y gefnogaeth, yr anogaeth a'r fentoriaeth a roddwyd gan y staff. Yn dilyn ei araith, cyflwynodd sawl gwobr ar gyfer y perfformiad academaidd gorau ar draws y rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Dywedodd yr Athro Milbourne: “Graddio yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Mae'n gyfle i gydnabod gwaith caled y myfyrwyr a'u llongyfarch ar gyflawni eu graddau. Ein nod fel Ysgol yw cynhyrchu graddedigion blaengar, creadigol a chwilfrydig a fydd yn mynd allan i'r byd ac yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i wella lleoedd a’r gymdeithas er lles cenedlaethau'r dyfodol. Rwy’n ffyddiog y bydd Graddedigion 2019 yn gwneud hynny, a llawer mwy. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt."
Cyflwynodd yr Athro Milbourne wobrau eleni ar gyfer y myfyrwyr a berfformiodd orau hefyd. Roedd yr ysgol yn falch o gydnabod:
- Ellena Hodges ac Astrid Guthier a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol.
- Sophie Jones a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio.
- Matthew Ellis a berfformiodd orau ar y rhaglen BSc Daearyddiaeth (Ddynol).
- Laurie Appleyard, Rand Irons, Mali Evans a Caitlin Ballard a berfformiodd orau ar y rhaglenni Meistr.
Graddio yw un o uchafbwyntiau'r flwyddyn academaidd ar gyfer yr Ysgol, ac mae'n cynnig cyfle i longyfarch myfyrwyr ar eu llwyddiannau, dathlu gyda'r myfyrwyr a'u teuluoedd, a dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod eu hamser yn yr Ysgol, mae'r holl fyfyrwyr wedi helpu i gyfoethogi a gwella cymuned a diwylliant yr Ysgol. Wrth i'r digwyddiadau Graddio ddod i ben am flwyddyn arall, mae'r Ysgol yn awyddus i atgoffa pawb sy'n graddio y byddant bob amser yn rhan o'r gymuned honno ac yn cael eu gwerthfawrogi fel cynfyfyrwyr. Llongyfarchiadau i Raddedigion 2019!