Athro’r Gyfraith yn cwrdd ag Esgob Llywyddol Norwy
23 Gorffennaf 2019
Ym mis Mehefin, cafodd yr Athro Norman Doe, Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, gyfarfod preifat gyda’r Parchedicaf Helga Haugland Byfuglien, Esgob Llywyddol Cynhadledd Esgobion Eglwys Norwy.
Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Norwy yw eglwys genedlaethol sefydledig Norwy, neu’r eglwys werin. Mae’r Esgob Llywyddol cyfwerth ag Archesgob Caergaint Eglwys Lloegr. Trafododd yr Athro Doe a’r Esgob Byfuglien y Statement of Principles of Christian Law (Rhufain 2016), a awgrymwyd ac a ddrafftiwyd yn wreiddiol gan yr Athro Doe ar sail ei lyfr Christian Law: Contemporary Principles (Cambridge University Press, 2013), a gyhoeddwyd gan banel eciwmenaidd o ddeg traddodiad Cristnogol ledled y byd ac mae’n cael ei fwydo i mewn i waith Cyngor Eglwysi’r Byd a’i Gomisiwn Ffydd a Threfn.
Eglurodd yr Athro Byfuglien sut y croesawodd y Datganiad wrth feithrin gwaith ar y cyd rhwng Cristnogion sydd wedi’u rhannu ar draws y byd. Trefnwyd y cyfarfod gan Andreas Henriksen Aarflot, Cynghorydd yn Adran Gyfreithiol Cyngor Cenedlaethol Eglwys Norwy, ac Is-Lywydd Cymdeithas Norwyaidd Cyfraith Eglwysig a Chynghorydd. Yn dilyn y cyfarfod, rhoddodd yr Athro Doe y prif anerchiad yng nghyfarfod Cymdeithas Norwyaidd y Gyfraith Eglwysig ar natur sefydliad Eglwys Lloegr a’i ddadsefydlu yng Nghymru yn 1920.
Ar 7 Mehefin, cyflwynodd yr Athro Doe gyfarfod ar y Datganiad a gynhaliodd ar y cyd gyda Chyngor Eciwmenaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol Eglwys Norwy a Chynhadledd Esgobion Eglwys Norwy. Yna cynhaliwyd cyfarfod gydag Adran Gyfreithiol yr Eglwys pan ddefnyddiwyd y Datganiad i drafod datblygiadau presennol yn y berthynas rhwng yr eglwys a’r wladwriaeth yn Norwy.