Model newydd Caerdydd ar gyfer gofal iechyd effeithiol
23 Gorffennaf 2019
Mae deg uwch-feddyg yn hyrwyddo model newydd er mwyn atal salwch yn ysbytai'r GIG.
Mae'r arbenigwyr yn defnyddio eu gwybodaeth arbenigol i ymgorffori ataliaeth yn y gofal a geir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Mae'r Meddygon Ymgynghorol Clinigol sy'n Hyrwyddo Camau Atal (CCPCs) wedi enwebu eu hunain i weithredu mewn rolau arwain ataliaeth ar draws meysydd sy'n cynnwys llawfeddygaeth orthopedig, llawfeddygaeth y genau a'r wyneb, dermatoleg, meddygaeth, haematoleg, gastroenteroleg a meddygaeth frys.
Yr Athro Jonathan Shepherd, llawfeddyg o Gaerdydd, a ddyfeisiodd y fenter Hyrwyddwyr ar ôl arloesi Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais. Fe wnaeth y model hwn arwain at leihad sylweddol yn nifer y bobl a gafodd eu derbyn i ysbytai ac a aeth i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghaerdydd, ac mae bellach wedi'i ymgorffori mewn dinasoedd ar draws y DU a thramor.
"Fe wnaeth llwyddiant y Model, a'r profiad o gadeirio Bwrdd Atal Trais Caerdydd am 20 mlynedd fel ymgynghorydd ysbyty, wneud i mi sylweddoli y gallai hyrwyddwyr arbenigol wella ataliaeth a mynd i'r afael â risgiau mawr eraill i iechyd – o ysmygu a gordewdra i ddiffyg ymarfer corff a chamddefnydd alcohol."
"Dylai pawb sy'n ymweld ag ysbyty'r GIG fod yn hollol ffyddiog bod y gofal a ddarperir yn rhoi cymaint o bwyslais ar ataliaeth ag y mae ar brofion a thriniaeth", ychwanegodd.
Bu cyfres o weithdai yn edrych ar sut i fynd i'r afael â risgiau iechyd, sut i gydweithio ar draws arbenigeddau, a sut i hyrwyddo ataliaeth. Fe wnaeth y sesiynau hefyd helpu i ganfod buddiannau ataliaeth amrywiol darpar CCPCs.
Dywedodd Len Richards, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch o fod wedi cyd-ddatblygu'r fenter gyffrous hon gyda'r Athro Shepherd. Mae penodi CCPC yn ategu ein strategaeth 10 mlynedd o wella gwasanaethau - Llywio ein Lles at y Dyfodol - sydd â'r nod o roi'r cyfle i bawb fyw bywydau hirach, iachach, hapusach."
Dywedodd Dr Sian Griffiths, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Mae gan nifer o'r afiechydon sydd â'r effaith fwyaf ar ein poblogaeth leol ffactorau risg cyffredin, megis ysmygu, diet ac ymarfer."
"Mae'r system CCPC yn galluogi ymgynghorwyr ysbyty i lywio gwasanaethau'r dyfodol drwy rannu gwybodaeth arbenigol a syniadau am ataliaeth ar draws ystod eang o arbenigeddau, a'i nod yw cefnogi lles corfforol a meddyliol cleifion a staff. Mae CCPCs hefyd yn cefnogi ein nod o wella iechyd a lles ein poblogaeth yn y dyfodol drwy greu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo'n hyderus i gymryd camau sy'n gwella eu hiechyd ac yn lleihau eu risg o iechyd gwael."
Croesawyd penodiad CCPCs gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a Llywodraeth Cymru.