Indonesian ambulance service
22 Gorffennaf 2019
Bydd cyllid newydd yn helpu ymchwilwyr i gael effaith sy’n achub bywydau yn Indonesia
Bydd tîm o ymchwilwyr yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, Paul Harper, yn mynd i’r afael â’r heriau datblygu sy’n wynebu gwasanaethau meddygol argyfwng yn Indonesia wedi ennill £559,000 o gyllid.
Mae argyfyngau meddygol lle mae amser ymateb yn bwysig yn gyfrifol am draean o farwolaethau mewn gwledydd incwm canolig. Gellid osgoi llawer ohonynt pe bai mynediad at driniaeth cyn mynd i’r ysbyty a phe cyrhaeddid adrannau argyfwng yn brydlon.
Ceir daeargrynfeydd, echdoriadau llosgfynyddoedd, tswnamïau, a digwyddiadau lleol megis tirlithriadau, llifogydd, a thanau gwyllt yn aml yn Indonesia. Ond tan yn ddiweddar, nid oedd gan y wlad ddarpariaeth ambiwlans cyhoeddus i wasanaethu ei phoblogaeth o 264 miliwn. Yn 2018 yn unig, amcangyfrifwyd bod trychinebau naturiol wedi hawlio bywydau mwy na 4,000 o bobl, a dadleoli 3 miliwn o bobl.
Mae Indonesia bellach yn ceisio datblygu ac integreiddio system ymateb i argyfyngau genedlaethol, ond erys nifer o heriau, gan gynnwys ardal ddaearyddol eang, rhwydweithiau heolydd oriog, problemau tagfeydd traffig, a diffyg ambiwlansiau. Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Data, Paul Harper, Dr Daniel Gartner, Dr Vince Knight, a Sarie Brice o’r Ysgol Mathemateg wedi cynnig modelau mathemategol newydd a fydd yn cael eu defnyddio i oresgyn heriau unigryw Indonesia.
Gan weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Argyfwng Cenedlaethol Indonesia, mae’r tîm yn gobeithio cyflwyno gwelliannau i’r system gofal iechyd a fydd yn achub bywydau, lleihau amseroedd aros i gleifion, gwella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi i bawb yn y gymdeithas.
Mae’r tîm o fathemategwyr wrth eu boddau i fod ennill £559,000 am 2 flynedd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), ac maent yn edrych ymlaen at gychwyn ar y rhaglen ymchwil gyffrous ym mis Hydref.
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn cefnogi’r prosiect, gan gynnig arweiniad a hyfforddiant parafeddygol i’w partneriaid yn Indonesia. Bydd yr Athro Aryono Pusponegoro, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Sefydliad Gwasanaeth Ambiwlans Argyfwng 118 Indonesia, a Dr Justin Boutilier, MIT (y Labordy Cadwyn Gyflenwi Ddyngarol yng Nghanolfan MIT ar gyfer Trafnidiaeth a Logisteg) hefyd yn cefnogi’r prosiect.
Mae gan Ysgol Mathemateg Caerdydd hanes hir o roi mathemateg wrth wraidd meddygaeth er mwyn creu gwelliannau sy’n achub bywydau. Yn 2015, cwblhaodd Paul Harper a’r Athro Jeff Griffiths ymchwil debyg i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru a Lloegr. Mae Maths Saves Lives yn parhau i fod yn llwyddiant anferthol, gan helpu i achub bywydau a lleihau costau yng ngwasanaeth iechyd y DU. Mae’r tîm yn gobeithio ail-greu y llwyddiant hwn yn Indonesia.