Llwyddiant yng ngwobrau’r diwydiant adeiladu
22 Gorffennaf 2019
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill cyfres o wobrau’r diwydiant adeiladu am eu gwaith ar brosiectau adeiladu ac adnewyddu.
Mae adeilad newydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) yng nghanol dinas Caerdydd wedi cael dwy wobr yng ngwobrau Adeiladu Addysg Cymru - Prosiect y Flwyddyn a Mannau Dysgu Ysbrydoledig.
Cafwyd cymeradwyaeth uchel am brosiect JOMEC yng nghategori Profiad Disgyblion/Myfyrwyr.
Yn ogystal, enillodd y Brifysgol ddwy wobr yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, a bydd nawr yn symud ymlaen i’r gwobrau cenedlaethol ym mis Tachwedd 2019.
Y gwobrau oedd Cleient y Flwyddyn, sy’n ymwneud â fframwaith adeiladu’r Brifysgol, a gwobr Iechyd, Diogelwch a Lles gyda Knox a Wells am brosiect y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Yn gynharach eleni, cafodd y Brifysgol ganmoliaeth uchel am y cyfleusterau a grëwyd ar gyfer Sefydliad Ymchwil Dementia mewn cystadleuaeth ryngwladol fawr ar gyfer adeiladau gwyddoniaeth - Gwobrau S-Lab.
Mae Gwobrau S-Lab, a gychwynnodd yn 2012, yn cydnabod rhagoriaeth ym maes dylunio, gweithredu a rheoli labordai.