First-time parent juggles sleepless nights with studies
19 Gorffennaf 2019
Mae Victoria Harris yn graddio heddiw gydag anrhydedd dosbarth cyntaf – mae hi wedi llwyddo i wneud hyn wrth ymdopi â bod yn rhiant am y tro cyntaf.
Mae Victoria ymhlith nifer o fyfyrwyr hŷn sydd wedi elwa ar raglen Llwybrau Gradd Prifysgol Caerdydd - menter a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer pobl a allai fod wedi bod allan o addysg ffurfiol am nifer o flynyddoedd.
Mae'r Brifysgol yn cynnig llwybrau mewn ystod eang o feysydd, o ofal iechyd i hanes, busnes a newyddiaduraeth, gyda phob un yn cael ei gyflwyno'n benodol i anghenion y myfyrwyr.
Nid oes rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar lwybr gael cymwysterau blaenorol. Maent yn gwneud y rhan fwyaf o'u dysgu yn rhan-amser gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn dosbarth cyfeillgar a hamddenol.
Rheolwr recriwtio oedd Victoria, yna dechreuodd ar raglen Llwybr at Radd bedair blynedd mewn Gwyddorau Cymdeithasol a daeth yn feichiog yn y flwyddyn gyntaf. Ar ôl llwyddo ym mlwyddyn gyntaf y ‘llwybr’, aeth ymlaen i ddechrau gradd israddedig ‘Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol’ tair blynedd pan oedd ei merch Ffion ddim ond yn 10 wythnos oed.
“Gorffennais fy asesiadau terfynol ar y rhaglen llwybr ym mis Mehefin, rhoddais enedigaeth ym mis Gorffennaf a dechreuais fy ngradd ym mis Medi,” meddai.
“Rwy'n falch o fy nghyflawniad,” meddai'r fam 35 oed, o Dreganna, Caerdydd. “Mae wedi bod yn gryn her, ond yn werth chweil. Waeth pa mor anodd yw hi, pan fyddwch chi’n cael babi, mae'n rhoi hwb ychwanegol i chi i gyflawni eich nodau. Rwy’n edrych ymlaen at ddweud wrthi pan fydd hi'n hŷn, ‘Nes i fynd amdani’.”
Roeddwn yn dygymod â newidiadau enfawr o ran fy hunaniaeth yr adeg hynny - Fe ddes i’n fam newydd ac yn fyfyriwr aeddfed ar yr un pryd. Roeddwn yn ceisio dod o hyd i fy lle.”
Yn wir, roedd prosiect traethawd hir Victoria yn canolbwyntio ar sut mae bod yn fam am y tro cyntaf yn dylanwadu ar hunaniaeth, a'u profiadau a dulliau ar gyfer ymdopi.
“Roedd yna adegau drwy gydol fy astudiaethau pan roeddwn yn cwestiynu a oeddwn wedi gwneud y penderfyniad cywir” meddai. “Yn sicr, roedd gen i’r ‘syndrom twyllwr’ Roeddwn i'n defnyddio sgiliau nad oeddwn i wedi eu defnyddio am amser hir ac yna roeddwn i'n mynd adref, ar ôl diwrnodau hir o ddarlithoedd, yn edrych ar ôl Ffion ac yn cael nosweithiau di-gwsg gan fy mod yn ei bwydo.
“Ond dechreuais fwynhau astudio. Rydw i wedi cael y cyfle i weithio ac ymgysylltu â nifer o bobl o gefndiroedd amrywiol. Yn ogystal ag aeddfedu’n academaidd, rydw i wedi profi twf personol enfawr hefyd.
Aeth Victoria i weithio’n syth ar ôl ei harholiadau Safon Uwch ond roedd hi wedi difaru peidio â mynd i fyd addysg uwch.
“Roeddwn i'n awyddus i ddechrau ennill arian yn syth ar ôl gadael ysgol. Roeddwn yn ansicr am lwybr fy ngyrfa, ond roeddwn i eisiau cael rhywfaint o brofiad gwaith a cheisio gweithio fy ffordd i fyny. Ond wrth i mi fynd yn hŷn, newidiodd fy nghymhellion, a roeddwn eisiau her newydd.
“Dewisais radd yn y gwyddorau dynol a chymdeithasol gan fy mod wastad wedi ymddiddori mewn cymdeithaseg a seicoleg. Roedd y modiwlau'n ddiddorol iawn ac fe wnaethant fy ngalluogi i gael gafael ar faterion cyfoes.”
Nod tymor hir Victoria yw dod yn therapydd chwarae plant. Ond yn gyntaf, bydd yn ennill profiad fel cynorthwy-ydd addysgu cyn gwneud cais am gymhwyster Addysgu Proffesiynol.
Bydd Ffion, sy'n dair oed y mis hwn, ei phartner Tom a theulu a ffrindiau yn dathlu gyda Victoria wrth iddi raddio
Ychwanegodd Victoria: "Mae dychwelyd i fyd addysg wedi golygu llawer mwy nag astudio a chynyddu fy ngallu i ennill cyflog gwell - mae wedi rhoi hyder i mi a chyfle i fynd â'm gyrfa i gyfeiriad newydd.”
Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: “Rwy’n falch dros ben o weld Victoria’n graddio o'r Brifysgol â gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
“Mae hi wedi llwyddo i gwblhau ei hastudiaethau wrth ymdopi â phwysau bod yn fam am y tro cyntaf. Mae'n ysbrydoliaeth i unrhyw un sy'n ystyried ymgymryd â her newydd.
“Rydym yn falch iawn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda myfyrwyr aeddfed er mwyn rhoi cyfleoedd iddynt elwa ar addysg prifysgol. Mae Victoria yn brawf nad yw hi byth yn rhy hwyr i wireddu eich potensial addysgol.”
I ddysgu mwy am lwybrau at radd, ewch i https://www.caerdydd.ac.uk/part-time-courses-for-adults/pathways-to-a-degree