Archesgob Caergaint yn cymeradwyo ymchwil y Brifysgol i gysylltiadau ffydd
29 Hydref 2015
Cefnogi argymhellion i wella cysylltiadau rhwng grwpiau ffydd a systemau cynllunio llywodraeth leol
Mae academydd o Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Brifysgol wedi cyd-ysgrifennu papur briffio polisi sydd wedi'i gymeradwyo gan Archesgob Caergaint.
Dr Richard Gale, Darlithydd Daearyddiaeth Ddynol, oedd cydawdur y papur briffio polisi, sy'n nodi'r heriau allweddol ar gyfer grwpiau ffydd a'r sector cynllunio.
Gan weithio ochr yn ochr â Dr Andrew Rogers ym Mhrifysgol Roehampton, arweiniodd rwydwaith Ffydd a Lle a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Diben y rhwydwaith hwn oedd pwyso a mesur effeithiau cyfreithiau a rheoliadau cynllunio ar grwpiau ffydd.
Dywedodd Dr Gale: "Roeddem yn canolbwyntio ar ddwyn ynghyd
arbenigedd ar y pwnc mewn grŵp 'tasg' unigryw, a oedd yn cynnwys cynllunwyr,
llunwyr polisïau, cynrychiolwyr grwpiau ffydd, ac academyddion. Roedd ein
trafodaethau'n seiliedig ar waith ymchwil hirsefydlog yr wyf wedi'i gynnal i
effeithiau rheolau cynllunio ar gymunedau Mwslimaidd sy'n ceisio sefydlu
mosgiau a chyfleusterau addysg. Roedd hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil tebyg
y mae Andrew Rogers wedi'i wneud i Eglwysi Pobl Dduon."
Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod llawer o
grwpiau ffydd - a grwpiau lleiafrifol yn arbennig - yn wynebu anawsterau wrth
geisio datblygu cyfleusterau crefyddol, gan gynnwys llawer o wrthwynebiad lleol.
Ar ôl 14 mis o gyfarfodydd a thrafodaethau, canlyniad y Rhwydwaith Ffydd a Lle yw papur briffio polisi ar sut dylai awdurdodau cynllunio lleol ledled y DU ymateb i anghenion cynyddol grwpiau lleiafrifol crefyddol o ran gofod.
Mae'r papur briffio'n gwneud 15 o argymhellion ynghylch sut gellir gwella'r cysylltiadau rhwng grwpiau ffydd sy'n tyfu, y mae arnynt angen lle i addoli, a system gynllunio'r llywodraeth leol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Gofyn i grwpiau ffydd gymryd rhan fwy weithredol yn natblygiad Cynlluniau Lleol cynghorau i sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu cynnwys yn y broses ymgynghori.
- Gofyn i gynghorau adolygu data ar geisiadau cynllunio i ganfod a yw grwpiau ffydd yn cael eu gwrthod yn amlach ar gyfartaledd, a chymryd camau priodol os bydd angen.
- Amddiffyn lleoedd ar gyfer seilwaith cymdeithasol, gan gynnwys mannau addoli.
Ychwanegodd Dr Gale: "Mae ein papur briffio'n nodi'r heriau allweddol ar gyfer grwpiau ffydd a'r sector cynllunio. Yn y pen draw, mae ar y ddwy ochr angen gwell dealltwriaeth o'i gilydd, er mwyn i gymunedau crefyddol yn ein dinasoedd ffynnu a gallu addoli gydag urddas.
"Mae gennym dystiolaeth bod grwpiau Cristnogol a grwpiau ffydd eraill wedi gorfod troi at ystadau diwydiannol a pharciau manwerthu i sefydlu mannau addoli. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol ar eu cyfer nhw, ac fel arfer, nid yw'n cyd-fynd â dymuniadau cynghorwyr sydd am annog twf busnes."
Mae Justin Wellby, Archesgob Caergaint, wedi siarad o blaid y papur briffio, gan annog cynllunwyr a grwpiau ffydd i 'ymgysylltu o ddifrif ag argymhellion y Rhwydwaith Ffydd a Lle.' Mae'r Gweinidog Tai a Chynllunio, Brandon Lewis AS, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, wedi ymateb yn ffafriol i'r papur briffio hefyd.
Cefnogwyd y Rhwydwaith Ffydd a Lle gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Yn dilyn digwyddiad lansio yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, caiff y papur briffio polisi ei ddosbarthu i'r holl awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr.